Os ydych yn gwsmer Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant neu Asiantaeth Cynnal Plant, byddwch angen cysylltu gyda'r asiantaeth berthnasol.

Ar gyfer achosion presennol gyda'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Ffoniwch y rhif ffôn a roddwyd i chi dros y ffôn os ydych wedi gwneud cais yn ddiweddar. Gallwch hefyd ddod o hyd i'r rhif:

  • yn eich pecyn croeso
  • ar ben unrhyw lythyr mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi ei anfon atoch

Os ydych angen gwneud ymholiad am achos presennol gyda’r Asiantaeth Cynnal Plant, mae'r rhif ffôn, e-bost a chyfeiriad post rydych ei angen, yn dibynnu ar ba swyddfa sy'n rheoli eich achos.

Os oes gennych lythyr cau achos Asiantaeth Cynnal Plant? Darganfod sut mae’r Asiantaeth Cynnal Plant yn newid.