Dyma rai o'r camau y gallwch eu cymryd i geisio gwneud y trefniadau cynhaliaeth plant mwyaf addas ar gyfer eich plentyn.
Darparu
- Defnyddiwch ein cyfrifydd cynhaliaeth plant i gael amcangyfrif or swm o gynhaliaeth plant y gallech orfod ei dalu, neu a gewch gyda threfniant drwyr CSA. Gallwch brintio hwn a'i ddefnyddio fel man cychwyn ar gyfer eich trafodaeth
- Ystyriwch beth rydych eisiau ei gyflawni a beth mae'r rhiant arall eisiau
- Dylech ystyried eich holl opsiynau a chanlyniad posibl pob un ohonynt
- Ysgrifennwch y prif bethau rydych am eu trafod
- Ble rydych yn fodlon cyfaddawdu er mwyn trefnu cynhaliaeth plant?
- Meddyliwch am ba wybodaeth fydd angen i chi ddod gyda chi. Er enghraifft, costau ysgol, bwyd, dillad, teithio, costau tai a biliau.
Trafodwch
- Siaradwch am un peth ar y tro. Cadwch at eich cynllun trafod
- Dangoswch y cyfrifiad cynhaliaeth plant gan Opsiynau Cynhaliaeth Plant i'r rhiant arall. Dangoswch y wybodaeth a roddoch i ni er mwyn cael y ffigwr hwnnw
- Defnyddiwch gynllun gwario i weithio allan faint o arian sydd gennych bob wythnos neu bob mis. Gallech wneud hyn gyda'r rhiant arall er mwyn deall mwy am amgylchiadau ariannol eich gilydd
- Byddwch mor agored ac onest â phosibl am eich amgylchiadau a sut gallant effeithio ar sut byddwch yn trefnu cynhaliaeth plant
- Eglurwch y rhesymau dros eich teimladau am sut i drefnu cynhaliaeth plant.
- Gwrandewch a cheisiwch ddeall safbwynt y rhiant arall cyn i chi ymateb.
Cynigwch ffordd ymlaen
- Cynigwch drefniant cynhaliaeth plant y credwch i fod yn deg ac yn ymarferol ar gyfer y ddau ohonoch
- Byddwch yn barod i gyfaddawdu ar rai pethau. Er enghraifft, pryd byddwch yn adolygu eich cytundeb
- Os nad ydych yn gallu symud ymlaen, cytunwch i siarad eto nes ymlaen, neu cynigwch ffordd wahanol o wneud trefniant.
Cytuno
- Pan fyddwch yn dod i gytundeb am gynhaliaeth plant – ysgrifennwch y cytundeb i lawr a dylai'r ddau ohonoch gadw copi. Trwy wneud hyn, bydd y ddau ohonoch yn glir am beth sydd wedi ei gytuno arno. Gallwch ddefnyddio ein ffurflen cytundeb teuluol i wneud hyn.
Pethau i'w hystyried
- Canolbwyntiwch ar ddatrys pethau ar gyfer y dyfodol yn hytrach na mynd dros hen broblemau
- Bydd angen i chi gael amcanion realistig os ydych am allu cwrdd â hwy
- Cofiwch eich bod yn son am gynhaliaeth plant er mwyn cwrdd ag anghenion eich plentyn.

