-
Cynhaliaeth plant
Asiantaeth Cynnal Plant
Y gwasanaeth cynhaliaeth plant statudol. Mae'n gyfrifol am drefnu cynhaliaeth plant er mwyn sicrhau bod rhieni yn cyfrannu yn ariannol tuag at fagwraeth eu plant.
-
Gwybodaeth i rieni sy'n byw ar wahân
Y Ganolfan i Deuluoedd ar Wahân
Mae yn rhoi cyngor a chymorth i rieni ac i bob eraill sy'n rhan o deulu yn gwahanu.
Families Need Fathers
Maent yn rhoi gwybodaeth i rieni ac yn cynnal cyfarfodydd agored yn lleol.
Gingerbread
Gwybodaeth i rieni unigol am bethau fel cynhaliaeth, credydau treth, budd-daliadau, gwaith, addysg, hawliau cyfreithiol, gofal plant a gwyliau.
ParentlinePlus
Mae yn rhoi cyngor a chymorth i unrhyw un sy'n magu plentyn, gan gynnwys llys-rieni a neiniau a theidiau.
Dadtalk.co.uk
Newyddion, adnoddau a chyngor ymarferol am fagu plant, i gyd wedi ei anelu at ddynion ar gyfer y peth pwysicaf iddynt - bod yn dad.
Single Parents Action Network
Mae'r rhwydwaith yma yn rhoi cefnogaeth i rieni sengl ac yn rhoi gwybodaeth am nifer o bynciau.
-
Cyfryngu
National Family Mediation
Rhwydwaith o Wasanaethau Cyfryngu Teuluol yng Nghymru a Lloegr sydd ddim yn gwneud elw. Mae yn cynnig help i gyplau priod neu ddi-briod sy'n gwahanu neu'n ysgaru.
Relate Cymru
Cynnigir cyngor, cwnsela, cyflafreddu a chymorth wyneb-yn-wyneb, dros y ffôn a thrwy'r wefan. Gallai bod ffi am y gwasanaethau hyn.
-
Cyngor cyfreithiol
Cyngor Cyfreithiol Cymunedol
Gwasanaeth cyfreithiol am ddim a ariennir gan y Llywodraeth sy'n cynnig cyngor am ddim i'r rhai hynny sy'n gymwys i gael Cymorth Cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.
CAFCASS (Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd) Cymru
Gweithia Cafcass Cymru gyda theuluoedd a gyfeirir atynt gan y llysoedd yng Nghymru. Maent yn helpu rhieni i ddod i gytundeb ynglŷn â threfniadau ar gyfer y plant. Ceir gwybodaeth ddefnyddiol ar eu gwefan yn ogystal ag astudiaethau achos, cyngor a chysylltiadau eraill.
-
Cymorth gyda materion gwaith ac ariannol
Y Ganolfan Byd Gwaith
Asiantaeth lywodraethol sy'n helpu pobl oed gweithio i adael byd lles a dechrau mewn gwaith.
Cyllid a Thollau EM
Gwybodaeth am gredydau treth.
http://www.taxcredits.inlandrevenue.gov.uk/Qualify/WelshLinkDetails.aspx
National Debtline
Ymgynghorwyr arbenigol sy'n cynnig cyngor cyfrinachol am ddim a chymorth i ddelio gyda dyled bersonol.
-
Cartrefu
Shelter Cymru
Yn rhoi cyngor a gwybodaeth am ddim am broblemau tai.
Cartrefi Cymunedol Cymru
Ffôn 029 2055 7400
Y corff aelodaeth ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru, pob un yn gweithredu heb elw ac yn cynnig tua 114,000 o gartrefi a gwasanaethau tai ledled Cymru.
-
Trais yn y cartref a chamdriniaeth
Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref Cymru
Llinell gymorth sy'n gyfrinachol ac am ddim, mae'n cynnig help i sicrhau eich diogelwch ac i drefnu lloches. Mae'r gwasanaeth yn gwbl ddwyieithog a gellir darparu cyfieithwyr ar gyfer unrhyw ieithoedd eraill yn hytrach na Chymraeg a Saesneg.
-
Gwybodaeth gyffredinol
Directgov
Gwefan gan y Llywodraeth sy'n cynnig gwybodaeth am nifer o bynciau yn cynnwys magu plant, arian, budd-daliadau a hawliau gwaith.
Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB)
Mae'n rhoi gwybodaeth am ddim a chyngor am bynciau amrywiol fel y gyfraith, cartrefi a dyled. I ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol edrychwch yn y llyfr ffôn neu defnyddiwch y wefan i ddod o hyd i'r agosaf.
