Faint yw'r gost o fagu plentyn? Mae'n gwestiwn sy'n bwysig i rieni sydd wedi gwahanu, ac yn un sy'n hanfodol i chi ateb wrth drafod cynhaliaeth plant gyda'r rhiant arall.
Gall y ffurflenni yma eich helpu i feddwl am y pethau sydd eu hangen ar blant ac i weithio allan y gwir gost o fagu eich plentyn.
Defnyddiwch hwy i rannu'r arian rydych yn ei wario ar eich plentyn i rannau unigol, o glytiau i fabanod i adloniant ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, ac yna gweithiwch allan pwy sydd yn y sefyllfa orau i dalu amdanynt.
Pryd i ddefnyddio'r ffurflenni yma
Mae'r ffurflenni yma yn fwyaf defnyddiol i rieni sy'n gweithio gyda'i gilydd er mwyn trefnu cynhaliaeth plant. Os ydych yn meddwl gwneud cytundeb teuluol, mae'r taflenni yn ffordd ddefnyddiol i drefnu pwy fydd yn talu am beth a beth ddylai'r cyfraniad cynhaliaeth fod.
Gallant hefyd fod yn ddefnyddiol os byddwch yn dilyn ein canllaw trafod. Cymerwch ychydig funudau i weithio allan beth sydd angen ar eich plentyn a faint fydd y pethau hynny'n costio, ac yna bydd gennych enghreifftiau go iawn wedi'u paratoi ar gyfer pan fyddwch yn siarad gyda’r rhiant arall.
Lawrlwythwch y dalenni cyfrifo gwariant [PDF 54KB].

