Nawr rydych wedi cwblhau eich cofnod personol dylech fod yn barod i ddechrau trafod yn llwyddiannus gyda'r rhiant arall.
Cyn i chi drefnu cyfarfod gofynnwch i'r rhiant arall gwblhau cofnod personol ei hunain er mwyn i chi allu cymharu syniadau a chyfathrebu mewn ffordd sy'n gweddu'n dda i’r ddau ohonoch.
Yna, mae'n amser i drefnu cyfarfod. Unwaith byddwch wedi cytuno ar sut, ble a phryd byddwch yn trafod cynhaliaeth plant, rydych wedi gwneud y cam cyntaf tuag at sicrhau dyfodol eich plentyn. Gallai fod o help i chi ddefnyddio eich cofnodion personol yn eich trafodaethau hefyd, er mwyn annog y sgwrs ac i gadw eich syniadau yn drefnus.
Cofiwch roi lles eich plentyn yn gyntaf.
Adnoddau defnyddiol i’ch helpu wrth drafod
Mae digonedd o wybodaeth ar y wefan yma gan gynnwys:
- mwy o wybodaeth am beth yw’ch opsiynau
- rhestr o mudiadau defnyddiol allai eich helpu
- cyfrifydd cynhaliaeth ar-lein
- dalenni cyfrifo gwariant i'ch helpu i ystyried yr holl gostau fydd rhaid i chi eu hystyried.
Cewch fwy o wybodaeth yn ein hadran mudiadau defnyddiol, neu o'ch swyddfa Cyngor Ar Bopeth leol, neu lyfrgell gyhoeddus.
Angen mwy o help?
Pan fydd rhai rhieni'n gweithio trwy'r canllaw yma, byddant yn sylweddoli nad ydynt yn barod i drafod yn llawn. Os ydych yn teimlo fel hyn, nid ydych wedi gwastraffu eich amser. Ffoniwch y gwasanaeth Opsiynau a gallwn drafod yr holl opsiynau eraill sydd ar gael i chi.
Gallwch gysylltu gyda ni yn ystod unrhyw gam o'r broses yma. Gallwch hefyd ofyn i'r rhiant arall siarad gyda ni gan wybod y byddwn yn trin eu cwestiynau'n hollol gyfrinachol.
Peidiwch ag anghofio bod amgylchiadau hefyd yn newid, felly gallai unrhyw drefniadau y byddwch yn eu gwneud ddim ond gweithio'n llwyddiannus am gyfnod penodol o amser. Gallech benderfynu adolygu pethau neu wneud trefniadau newydd ar ôl dyddiad penodol, neu pan fydd eich amgylchiadau yn newid.







