Nawr eich bod wedi gwneud ychydig o baratoi ac wedi meddwl am sut bydd eich trafodaethau'n gweithio orau, gallwch feddwl am y cynlluniau rydych am gytuno arnynt.
Gwnewch yn siwr bod eich cynlluniau yn glir fel bod y ddau ohonoch yn siwr am beth rydych yn cytuno arno. Mae hefyd yn bwysig i feddwl am ba mor realistig yw eich cynlluniau. Efallai bydd gan riant arall eich plentyn syniadau ei hunain felly efallai bydd rhaid i chi gyfaddawdu. Meddyliwch am ba gynlluniau fydd yn haws i chi gytuno arnynt a pha rai allai fod yn fwy anodd.
Bydd gweithio trwy'r cwestiynau hyn yn eich helpu i wybod beth rydych angen gan y rhiant arall, a'r ffordd orau o gyflwyno eich syniadau.
Gallai fod o help i chi brintio rhestr o'r cwestiynau yma.
Sut byddwch yn dweud wrth y rhiant arall am eich syniadau?
A fyddwch yn ysgrifennu eich awgrymiadau i lawr, neu’n dweud wrthynt wyneb yn wyneb? A fyddwch yn rhoi eich holl syniadau ar yr un pryd, neu fesul un? A fyddwch yn cynnig dewisiadau eraill?
Pa syniadau ydych yn feddwl bydd y rhiant arall yn eu hawgrymu?
Bydd ganddynt sylwadau ar ba fath o gytundeb maent yn awyddus i’w gael. Edrychwch ar y syniadau rydych chi wedi ysgrifennu i lawr. Pa mor agos ydych chi'n meddwl byddant yn paru i fyny gyda chynlluniau’r rhiant arall?
Pa syniadau ydych chi'n credu bydd y rhai mwyaf anodd i gytuno arnynt?
Ysgrifennwch ar eich cofnod personol
Beth fydd eich cynigion?
Wrth edrych ar y rhestr o'r pethau rydych am gytuno arnynt, beth fyddwch yn ei gynnig am bob eitem? Ysgrifennwch i lawr y geiriau byddwch yn eu defnyddio yng ngholofn pump.
Dyna'r cwbl ar gyfer cam 3. Beth nesaf?
Nawr rydych wedi cwblhau'r trydydd cam dylai bod gennych syniad cliriach o beth rydych yn mynd i gynnig a beth allai’r rhiant arall fod eisiau, a gallwch symud ymlaen i'r cam olaf.
Os nad ydych yn siwr am eich rhestr, ffoniwch ni ar 0800 988 0988a gallwn drafod eich opsiynau gyda chi. Gallwch ofyn am gael siarad Cymraeg.








