Cam 4 - Cytuno ar eich cynlluniau

Progress bar Beth ydych am drafod? Sut ydych am drafod? Cyflwyno eich syniadau Cytuno ar eich cynlluniau Nawr rydych yn barod i drafod

Cam olaf y broses yw cytuno - sut byddwch yn gwybod pan fydd y ddau ohonoch wedi dod i gytundeb a beth rydych yn cytuno arno?

Bydd hefyd rhaid i chi feddwl am sut byddwch yn cofnodi'r cytundeb, ac os ydych am ei wneud yn gyfreithiol rhwym. Rydym yn argymell eich bod yn ei ysgrifennu i lawr a bod y ddau ohonoch yn cadw copi o'ch cytundeb fel bod y ddau ohonoch yn glir am beth rydych wedi cytuno arno. Gallwch ddefnyddio ein ffurflen cytundeb teuluol i wneud hyn.

Bwriad y ffurflen cytundeb teuluol yw cofnodi manylion eich cytundebau cynhaliaeth plant ond gall hefyd gael ei ddefnyddio i gofnodi popeth rydych wedi ei gytuno yn ystod eich trafodaeth.

Gallai fod yn ddefnyddiol i chi brintio rhestr o'r cwestiynau yma.

Sut byddwch yn gwybod beth rydych wedi cytuno arno?

Bydd rhaid i'r ddau ohonoch wybod beth rydych wedi cytuno arno. Sut gallwch fod yn siŵr? Mae rhai rhieni yn ei chael hi'n help i gofnodi cytundebau'n swyddogol fel bod y ddau ohonoch yn gallu cyfeirio yn ôl atynt. A fyddai hyn yn ddefnyddiol i chi?

Light bulbOs nad ydych yn gallu cyrraedd cytundeb rhwng eich gilydd am rywbeth, rhowch y mater hwnnw i un ochr, a chytunwch i'w drafod yn nes ymlaen - gyda chyfryngwr yn bresennol.

Os byddwch yn penderfynu cofnodi eich cytundeb, sut byddwch yn gwneud hyn?

A fyddwch yn ysgrifennu eich trefniadau i lawr neu'n gofyn i berson arall fod yn dyst i'ch cytundeb? A fydd y ddau ohonoch yn cadw copi'r un o'r cytundeb neu a fyddwch yn ei basio ymlaen at rywun arall i ofalu amdano?

Light bulbPam ddim defnyddio ffurflen cytundeb teuluol i gofnodi beth rydych wedi cytuno arno?

Ydych chi am i'ch cytundebau fod yn gyfreithiol rhwym?

Fel arfer, nid yw cytundebau teuluol yn gyfreithiol rhwym, ond gall y llysoedd eu gorfodi. Ydych chi'n meddwl y byddai hyn yn ddefnyddiol yn eich sefyllfa chi? Os ydych, darllenwch ein tudalen am ddefnyddio'r llysoedd i drefnu cynhaliaeth plant am fwy o wybodaeth.

Am faint fydd eich cytundeb yn para?

Mae amgylchiadau ac anghenion yn newid, felly mae llawer o gytundebau sydd ddim ond yn ddefnyddiol am amser penodol. Ydych chi'n credu y byddai’n ddefnyddiol i gytuno ar ddyddiadau adolygu?

Sut byddwch yn gwybod os yw eich cytundeb yn gweithio?

Ysgrifennwch y prif bwyntiau fydd yn eich helpu i benderfynu os yw eich cytundeb yn gweithio. Os bydd unrhyw rai o'ch trefniadau yn methu, sut byddwch yn delio gyda hyn? A oes unrhyw beth y gallwch gytuno arno nawr a fyddai yn ei gwneud yn haws i chi siarad am eich problemau yn y dyfodol?

Sut fydd y ddau ohonoch yn cynnig unrhyw newidiadau rydych am eu gwneud?

Bydd anghenion eich plentyn a’ch anghenion chi eich hunain yn newid dros amser. Sut byddwch yn mynd ati i newid eich cytundeb?

standard formYsgrifennwch ar eich dalen cofnodi bersonol

Cofnodi eich cytundeb
Ym mlwch rhif pedwar, ysgrifennwch eich teimladau am sut rydych am gofnodi beth rydych wedi cytuno arno.

Dyna'r cwbl am gam 4. Beth nesaf?

Nawr rydych wedi cwblhau'r canllaw trafod, cymerwch olwg ar y crynodeb ar y dudalen nesaf er mwyn gweld sut gallwch ei ddefnyddio.

Os nad ydych yn siŵr am sut rydych am gofnodi eich cytundeb, ffoniwch ni ar 0800 988 0988 a gallwn drafod yr opsiynau sydd ar gael i chi. Gallwch ofyn am gael siarad Cymraeg.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Eich Cofnod Personol

Eich Cofnod Personol [PDF 72KB]

Your Personal Record

Lawr-lwythwch ddogfen PDF o'r cwestiynau yma

Cam 4 - Cytuno ar eich cynlluniau [PDF 50KB]

Step 4 - Cytuno ar eich cynlluniau

Gofyn cwestiwn

Ffoniwch ar 0800 988 0988
Mae llinellau ar agor o 8 am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9am i 4pm ar ddydd Sadwrn.
Neu, anfonwch e-bost atom