Stori Donna

Stori Donna

Pan wahanodd Donna oddi wrth ei gŵr, yn wreiddiol trefnwyd cynhaliaeth plant ar gyfer ei merch rhwng ei gilydd. Mewn amser, nid oedd y trefniadau yn gweithio ac ambell fis, ni fyddai yn talu dim byd o gwbwl. Roedd hefyd yn dechrau bod yn gas iawn tuag at hi.

Nid oedd Donna yn gwybod ble i droi felly penderfynodd roi 'cynhaliaeth plant' i mewn i Google a daeth ar draws gwefan Opsiynau Cynhaliaeth Plant. Darllenodd yn fanwl ac ystyriodd ei dewisiadau, ond teimla oherwydd bod ei chyn-ŵr mor anodd, byddai'n rhaid iddi ddefnyddio'r CSA er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei thalu.

Ers hynny, nid yw wedi edrych nôl. Mae cael achos gyda'r CSA yn golygu bod ei chyn-ŵr yn talu'r swm llawn ac ar amser. Mae Donna yn drist nad yw ei merch mewn cysylltiad â'i thad a byddai wedi hoffi gallu gwneud i'r cytundeb teuluol weithio, ond mae'n sylweddoli nad yw hynny'n bosibl ac mai mynd drwy'r CSA yw y dewis mwyaf diogel i'w hamgylchiadau hi.

Teimlad Donna yw na fyddai ei chyn-ŵr yn meiddio peidio â gwneud taliadau rheolaidd trwy'r CSA felly dyma sut bydd yn parhau.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Ffurflen cytundeb teuluol

Ffurflen cytundeb teuluol [PDF 298KB]PDF

Ffurflen cytundeb teuluol

Gofyn cwestiwn

Ffoniwch ar 0800 988 0988
Mae llinellau ar agor o 8 am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9am i 4pm ar ddydd Sadwrn.
Neu, anfonwch e-bost atom