Stori Sarah
Ffoniodd Sarah Opsiynau Cynhaliaeth Plant ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod ei chytundeb teuluol gyda'i phartner heb lwyddo. Dechreuodd ef wneud esgusodion er mwyn peidio â thalu ar amser ac yn aml fe dalodd llai na'r swm a gytunwyd ganddynt.
Siaradodd Sarah ag Opsiynau Cynhaliaeth Plant ac un o'r dewisiadau a drafodwyd gyda hi oedd i sefyldu achos gyda'r CSA. Defnyddiodd Sarah y cyfrifydd cynhaliaeth ar wefan Opsiynau Cynhaliaeth Plant i weld faint fyddai yn ei gael ar gyfer eu mab.
Daeth Sarah i wybod os oedd yn bwriadu defnyddio fformiwla'r CSA byddai yn cael mwy o gynhaliaeth. Gyda'r wybodaeth hon, cysylltodd gyda'i chyn-bartner. Gyda'r bygythiad o ddefnyddio'r CSA a gorfod talu mwy, fe dechreuodd ef dalu'r gynhaliaeth ar amser eto. Roedd Sarah yn hapus i gymryd llai o arian na mynd drwy'r CSA os golyga hynny y gallant aros ar delerau da.
Teimlai Sarah bod Opsiynau Cynhaliaeth Plant wedi chwarae rhan bwysig wrth ei helpu i ddod i benderfyniad. Roedd yn teimlo bod y gwasanaeth yn hawdd i'w ddefnyddio, yn rhydd o iaith dechnegol ac fe ddywedwyd yn glir wrthi beth oedd angen iddi wybod.

