Hanes John
Pan wahanodd John oddi wrth mam ei ddau blentyn, dechreuodd dalu cynhaliaeth plant drwy'r CSA ond nid oedd hyn yn hyblyg. Rhai misoedd roedd ei gyn-bartner angen arian ychwanegol ar gyfer eu plentyn, ond droeon eraill roedd yn fodlon gyda llai. Roeddent am gael ffordd a fyddai'n ystyried hyn ac yn cynnig mwy o hyblygrwydd. "Rhoddodd dipyn o straen arnom" ebe John. "Roeddem yn ffraeo yn aml. Nid oedd yn gweithio."
Roedd John wedi clywed am rieni yn gwneud trefniadau preifat a chyfeillgar rhwng eu gilydd, a daeth ar draws y rhif ar gyfer llinell gymorth Opsiynau Cynhaliaeth Plant ar wefan. Ffoniodd a siaradodd ag un o swyddogion yr Opsiynau mewn manylder, printio ffurflen cytundeb teuluol, a gofyn i'w gyn-wraig eistedd i lawr dros goffi gydag ef er mwyn ceisio datrys pethau. Ar ôl siarad yn agored, daethant i gytundeb y dylai John dalu am bethau yn hytrach na rhoi arian parod, felly mae'n talu'r morgais, edrych ar ôl y biliau bwyd a gwresogi ac hefyd yn talu am dripiau ysgol a gwersi cello a dawnsio.
"Roeddwn mor ddiolchgar am yr help a'r wybodaeth a dderbynais" ebe John. "Rwyn teimlo cymaint hapusach rwan dwi'n gweld i ble mae'r arian yn mynd. Nid oeddwn wedi deall bod ffordd amgen o gyfrannu ond mae hyn yn gweithio llawer gwell. Mae hefyd wedi safio ffortiwn i fi - byddwn wedi gorfod talu am gyfreithiwr. Ers i mi a'm cyn-bartner arwyddo'r ffurflen cytundeb teuluol, mae popeth wedi gwella. Mae ein perthynas wedi gwella'n aruthrol, ac rwyf hyd yn oed yn mynd i'r ty i gael paned yn hytrach na disgwyl am y plant yn y car. Rwy'n siarad gyda'n cyn-bartner bob dydd. Ni feddyliais erioed y byddai'n bosib gwneud hynny flynyddoedd yn ôl."

