Stori Linda

Stori Linda

Roedd Linda wedi bod yn briod am 20 mlynedd pan sylweddolodd fod ei gŵr yn caru ar y slei. Fe wahanodd y ddau yn fuan wedi hynny, ondnid oedd yn gwybod sut i gael cynhaliaeth plant ar gyfer ei phlant sydd yn 13 ac 16 oed.

Penderfynodd ffonio Opsiynau Cynhaliaeth Plant, a dysgodd y gallai wneud cytundeb teuluol gyda'r tad. Er ei fod wedi bod yn caru ar y slei, roedd y ddau ohonynt wedi llwyddo i fod yn gwrtais gyda'i gilydd er lles y plant.

Dywedodd Linda, sy'n gweithio fel hyfforddwraig gyrru, bod "y wybodaeth a gefais gan Opsiynau Cynhaliaeth plant wedi rhoi nerth i mi. Roeddwn yn teimlo'n ddryslud iawn ac roedd cael siarad gyda nhw yn rhyddhad mawr. Mae o help mawr i mi fy mod yn parhau i siarad a'm gŵr gan nad oeddwn eisiau i bethau fynd yn gas rhyngddom er mwyn y plant."

Fe eisteddodd Linda a'i chyn-ŵr i lawr a gweithio cytundeb allan sy'n gweddu i'r ddau ohonynt. Mae ei chyn-ŵr nawr yn talu'r biliau ac wedi sefydlu archeb sefydlog ar gyfer y morgais ac yswiriant tŷ. Ychwanegodd Linda "rwyf yn hapus iawn gyda'n cytundeb, ac ni fyddwn byth yn gofyn am arian ychwanegol. Mae gennym nawr berthynas gyfeillgar ac mae'n dod draw i'r tŷ yn aml. Ni fyddai hynny byth wedi digwydd tri mis yn ôl."

Gwybodaeth ddefnyddiol

Ffurflen cytundeb teuluol

Ffurflen cytundeb teuluol [PDF 298KB] PDF

Ffurflen cytundeb teuluol

Gofyn cwestiwn

Ffoniwch ar 0800 988 0988
Mae llinellau ar agor o 8 am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9am i 4pm ar ddydd Sadwrn.
Neu, anfonwch e-bost atom