Dyma rai enghreifftiau o sut mae Opsiynau Cynhaliaeth Plant wedi helpu pobl fel chi.
Stori Linda
Roedd Linda wedi bod yn briod am 20 mlynedd pan sylweddolodd bod ei gŵr yn caru ar y slei. Fe wahanodd y ddau yn fuan wedi hynny, ond nid oedd yn gwybod sut i gael cynhaliaeth plant ar gyfer ei phlant sy'n 13 ac 16 oed. Darllenwch stori Linda
Stori John
Pan wahanodd John, sy'n dad i ddau o blant, oddi wrth mam ei blant, fe dalodd gynhaliaeth plant drwy'r CSA ond roedd yn teimlo bod hyn yn anhyblyg iawn. Rhai misoedd roedd ei gyn-bartner angen ychydig mwy o arian ar gyfer eu plant ac ar adegau eraill roedd yn hapus gyda llai. Roeddent angen cytundeb fwy hyblyg a fyddai'n cymryd hyn i ystyriaeth.Darllenwch stori John
Stori Sarah
Fe ffoniodd Sarah Opsiynau Cynhaliaeth Plant pan ddaeth yn gwbl amlwg nad oedd y cytundeb teuluol gyda'i chyn-bartner yn gweithio. Roedd wedi dechrau gwneud esgusodion dros beidio â thalu ar amser ac yn aml yn talu llai na'r hyn a gytunwyd arno.Darllenwch stori Sarah
Stori Donna
Pan wahanodd Donna oddi wrth ei gŵr fe ddechreuon drefnu cynhaliaeth plant ar gyfer eu merch eu hunain. Ar ôl sbel fe ddaeth yn gwbl amlwg nad oedd y trefniant yn gweithio ac fe ddechreuodd fod yn ymosodol tuag ati.Darllenwch stori Donna

