Gwahanol fathau o gredyd - y manteision a'r anfanteision
- Cardiau credyd
- Cardiau siop
- Benthyciadau personol
Cardiau credyd
| Manteision |
Anfanteision |
Mae rhai cardiau credyd yn rhoi diogelwch ychwanegol i chi. Er
enghraifft, efallai cewch yswiriant ar eitem a brynwch.
Mae bron i bob cerdyn credyd yn cynnig credyd di-log am hyd at 59 diwrnod, cyn belled
â'ch bod yn talu balans y cerdyn yn llawn, o fewn y nifer o ddyddiau a nodir. |
Os byddwch yn tynnu arian allan ar eich cerdyn credyd, yn gyffredinol codir llog yn syth
am wneud hyn.
Gall y gyfradd llog blynyddol a dalwch ar ddyled cerdyn credyd fod yn uchel.
Bydd rhai cardiau credyd hefyd yn codi am drosglwyddo eich balans o un cerdyn i'r
llall.
Os na fyddwch yn talu'r balans ar y cerdyn bob mis, bydd llog yn cael ei godi yn
syth.
Nid yw cardiau credyd yn syniad da ar gyfer benthyg arian tymor hir. |
Cardiau siop
| Manteision |
Anfanteision |
| Mae cardiau siop yn gweithio yn yr un modd a chardiau credyd. Mae rhai
cardiau siop hefyd yn cynnig disgownt ar brynu o fewn siop. |
Er y gallai wneud synnwyr i ddefnyddio cerdyn siop er mwyn cael disgownt ar rywbeth
roeddech yn mynd i'w brynu beth bynnag, nid ydynt yn addas ar gyfer benthyg tymor
hir.
Fel cardiau credyd, gall cardiau siop fod yn ddrud iawn os na fyddwch yn talu'r balans bob
mis. |
Benthyciadau personol
| Manteision |
Anfanteision |
Gall benthyciad personol o fanc, cymdeithas adeiladu neu sefydliad ariannol
eich helpu i fantoli eich cyllideb oherwydd eich bod yn gwybod faint sy'n rhaid i chi ei
ad-dalu bob mis.
Fel arfer, caiff ad-daliadau eu gwneud dros gyfnod o amser a gytunwyd arno (unrhyw beth rhwng
6 mis a 10 mlynedd). |
Mae'r llog byddwch yn ei dalu ar eich benthyciad (APR), yn amrywio yn l swm y benthyciad
a'r cyfnod o amser a gytunwyd arno i dalu'r benthyciad yn l. Dylech chwilio am y fargen
orau.
Os byddwch yn cymryd benthyciad personol newydd i dalu hen fenthyciad, efallai codir ffi
am ad-dalu'n gynnar, a gall y ffioedd hyn fod yn uchel. |