Dyma rai camau syml y gallech eu cymryd i ostwng eich dyledion:
Cam 1. Adnabod eich dyledion.
Rhestrwch fanylion eich dyledion a phwy rydych mewn dyled iddynt. Yna gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pwy yn union sy'n atebol i dalu'r dyledion hynny; chi ynteu'r rhiant arall, er enghraifft.
Cam 2. Blaenoriaethu eich dyledion.
- Mae rhai dyledion yn bwysicach nag eraill.
- Y dyledion pwysicaf yw'r rhai hynny all arwain at ddatgysylltu eich nwy neu drydan, colli eich cartref neu eich carcharu.
Cam 3. Llunio cynllun gwario.
- Gall cynllun gwario syml eich helpu i reoli eich arian.
- Gall hefyd ddangos i fenthycwyr a chynghorwyr y rhiant arall beth allwch ei fforddio i'w dalu a faint mae eich plant angen i fyw arno.
- Dylech fod mor onest â phosibl wrth gwblhau eich cynllun gwario a sicrhewch eich bod yn ei ddiweddaru'n gyson.
- Newidiwch eich cynllun pan fydd eich incwm, costau neu flaenoriaethau yn newid.
Can 4. Trafodwch sut i ad-dalu'ch dyledion.
- Cymerwch gyngor gan gynghorydd dyled arbenigol. Gallant eich cynghori i gysylltu â'ch holl gredydwyr pwysicaf i wneud cynnig ad-dalu unigol i bob un ohonynt.
- Efallai gallwch gytuno ar gynllun ad-dalu gyda'ch benthycwyr sy'n gweithio o amgylch eich amgylchiadau. Gallwch ofyn i'ch benthycwyr rewi'r llog a chodiannau tra byddwch yn gwneud ad-daliadau llai o gyn lleied â £1 y mis.
- Os oes gennych unrhyw arian ar gael a allai gael ei ddefnyddio i dalu'ch dyledion, bydd eich benthycwyr yn disgwyl canran teg.
Cam 5. Cael popeth sydd gennych hawl iddo.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi a'ch teulu yn cael bob budd-dal, credyd treth ac incwm arall sydd gennych hawl iddo. Gwenwch yn siŵr eich bod yn cael y swm cywir.
- Os mai chi yw prif ofalwr o ddydd i ddydd y plentyn, dylech fod yn derbyn cynhaliaeth plant gan y rhiant arall. Os nad ydych yn cael cynhaliaeth plant, ffoniwch ni ac fe wnawn siarad gyda chi am eich opsiynau.
Cam 6. Gwario llai.
- Ysgrifennwch eich costau rheolaidd i gyd i lawr i weld beth allwch dorri i lawr arno.
- Gallwch arbed arian drwy siopa o amgylch am y bargeinion gorau ar nwy, trydan, dŵr, ffôn, credyd ac yswiriant.

