Sefyllfa ddyled fwy difrifol
Dyma rai pethau gallwch eu gwneud os ydych yn wynebu sefyllfa ddifrifol fel:
- bygythiad o gael eich dadfeddiannu o'ch cartref
- adfeddiannu'ch asedau
- datgysylltu eich nwy neu drydan
- Ymweliad gan feilïaid (neu swyddog y siryf yn Yr Alban)
- Bygythiad dadfeddiannu
- Datgysylltu nwy neu drydan
Ymweliad gan feilïaid (neu swyddog y siryf yn Yr Alban)
- Os oes arian yn ddyledus gennych, mae gan feili (neu swyddog y siryf) y pŵer i ymweld
â'ch cartref a chymryd eich eiddo fel taliad am ddyled.
- Nid oes gan y rhan fwyaf o feilïaid yr hawl i fynd i mewn i'ch cartref drwy ddefnyddio grym neu
achosi difrod i'ch eiddo. Mae ganddynt yr hawl i fynd i mewn i'ch cartref drwy ddrws neu ffenestr agored.
Mae gan swyddogion y siryf yn Yr Alban bwerau ychydig yn wahanol.
- Os na fyddwch yn gadael iddynt ddod i mewn i'ch cartref ni fydd y sefyllfa yn diflannu. Efallai byddant
yn ychwanegu codiannau ychwanegol bob tro byddant yn ymweld â'ch cartref. Ceisiwch drafod cynllun
talu gyda nhw neu'r cwmni y maer arian yn ddyledus iddynt gennych.
- Ymhob achos dylech geisio cyngor gan Cyngor Ar Bopeth.
Bygythiad dadfeddiannu
- Os ydych wedi methu rhai taliadau morgais neu rent, mae gan fenthycwyr a landlordiaid yr hawl i
geisio meddiannu'ch cartref.
- Gallai eich dadfeddiannu neu unrhyw fygythiad neu gais i'ch dadfeddiannu heb orchymyn llys fod
yn anghyfreithlon. Os bydd eich landlord yn ceisio eich dadfeddiannu, ceisiwch gyngor arbenigol.
- Os byddwch yn wynebu cael eich dadfeddiannu, dylech geisio cyngor gan
Shelter Cymru neu
Cyngor Ar Bopeth ar unwaith.
Datgysylltu nwy neu drydan
- Mae gan gwmnïau nwy a thrydan yr hawl i ddatgysylltu eich cyflenwad os nad ydych yn talu eu
biliau. Fodd bynnag, mae'n rhaid iddynt gynnig mesurydd rhagdaliad pan fo'n ddiogel ac yn ymarferol i
wneud hynny.
- Os oes perygl i'ch cyflenwad nwy neu drydan gael ei ddatgysylltu, dylech gysylltu â'ch
cwmni gwasanaeth hanfodol ar unwaith i gytuno ar gynllun ad-dalu.
- Efallai bydd yn bosibl i'ch Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu
Gredydau Pensiwn gael eu talu i'ch cwmni gwasanaeth hanfodol. Gall eich Canolfan Byd Gwaith lleol roi cyngor
i chi am hyn.
- Ni all cwmnïau dŵr ddatgysylltu'r cyflenwad dŵr i'ch cartref.