Gallwch naill ai gytuno am yr arian rhwng eich gilydd, neu ofyn i'r llys wneud y penderfyniad. Ond cyn dechrau trafod am arian gyda'r rhiant arall, gallech fod eisiau gofyn i gyfreithiwr am beth allai ddigwydd os ewch a'r mater i'r llys.
Cytuno rhwng eich gilydd
Gwneud cytundeb ynglŷn ag arian, eiddo a dyledion heb fynd i'r llys yw'r ffordd gyflymaf a rhataf fel arfer. Mae rhai pobl yn cael cymorth cyfreithiol gan gyfreithiwr ac yna'n gofyn i gyfryngwr eu helpu i weithio allan sut i wneud hyn. Gall cyfreithiwr wneud y cytundebau yn gyfreithiol, ac os ydych ar incwm isel efallai y gallwch gael help gyda'r costau.
Defnyddio'r llysoedd
Os na allwch ddod i gytundeb gan ddefnyddio cyfryngwr neu gyfreithiwr efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys i benderfynu sut dylai eich arian gael ei rannu. Ewch in hadran am hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol am fwy o wybodaeth.

