Asedau ar y cyd
Bydd sut rydych yn delio ag arian yn dibynnu ar eich amgylchiadau chi. Ni fydd eich eiddo, arian a dyled yn cael
ei rannu'n gyfartal o reidrwydd, felly ceisiwch gael cyngor proffesiynol cyn gwneud unrhyw beth fel symud allan
o'r cartref teuluol neu lofnodi dogfennau.
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac rydych yn poeni y gallai'r rhiant arall gymryd prif asedau fel y
car teuluol, gallwch gael gorchymyn llys i'w stopio. Ewch in hadran
cyfreithiol am fwy o wybodaeth.
Cyfrifon banc ar y cyd
Os credwch y gallai'r rhiant arall geisio cymryd arian allan o'r cyfrifon rydych yn ei rannu, heb eich
caniatâd, cysylltwch â'ch banc. Fe ddylent allu rhoi gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod y ddau ohonoch
yn gorfod llofnodi er mwyn tynnu unrhyw arian allan.
Os yw eich cyfrif banc ar y cyd yn parhau yn weithredol mae'n bosibl mai chi fydd yn atebol am dalu unrhyw
orddrafft yn ôl, hyd yn oed os nad chi a wariodd yr arian. Cysylltwch â'ch banc neu gymdeithas adeiladu
am fwy o gyngor.
Budd-daliadau
Os ydych yn derbyn budd-daliadau neu gredydau treth, neu os oedd y rhiant arall yn derbyn budd-daliadau ar gyfer
y teulu, mae'n rhaid i chi ddweud wrth y swyddfa budd-daliadau neu'r swyddfa credydau treth (neu'r ddau) os byddwch
yn gwahanu. Cadarnhewch os oes gennych hawl i unrhyw
gymorth ariannol arall.