Morgeisi a benthyciadau wedi'u diogelu
Gyda benthyciad wedi'i ddiogelu, defnyddir un o'ch asedau (fel eich cartref) fel diogelwch yn erbyn y benthyciad. Os na fyddwch yn talu'r ad-daliadau, gallai eich cartref fod mewn perygl.
Gorddrafftiau
Mae gorddrafft yn eich galluogi i ysgrifennu sieciau neu gymryd arian parod allan o'ch cyfrif banc hyd yn oed os nad ydych mewn credyd. Gall banciau godi llog ar orddrafftiau a bydd rhaid i chi ei ad-dalu rhywdro. Os ydych eisiau gorddrafft, siaradwch â'ch banc neu gymdeithas adeiladu i weld faint fydd y gyfradd llog a'r ffioedd. Mae mynd i'ch gorddrafft heb ganiatâd yn golygu y gall y banc godi ffi arnoch.
Hurbryniant
Beth bynnag fyddwch yn hurbrynu, yn dechnegol, cael ei hurio i chi y mae hyd nes byddwch wedi gorffen gwneud yr ad-daliadau. Golyga hyn na fyddwch yn berchen ar beth bynnag rydych wedi ei brynu hyd nes byddwch wedi gwneud y taliad olaf. Felly, os byddwch yn methu ad-daliad gall y cwmni credyd adfeddiannu'r eitem a "brynoch".
Cronfa Gymdeithasol
Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm neu Gredyd Pensiwn, efallai bod posibilrwydd i chi gael Benthyciad Cyllidebu di-log gan y Gronfa Gymdeithasol.
Gall Benthyciad Cyllidebu helpu tuag at dalu am eitemau sydd eu hangen yn y cartref, dillad a rhai dyledion.

