Delio gyda dyledion

Dim ond mynd yn waeth mae problemau ariannol os na fyddwch yn delio hwy, a gall hyn effeithio ar les eich plentyn. Os oes gennych ddyledion yn enw'r rhiant arall neu ar y cyd dylech gael cyngor ynglŷn ag os ydych yn gyfrifol amdandynt yn ôl y gyfraith.

A ydych mewn dyled?

Dyma'r arwyddion i ddangos y gallech fod phroblemau dyled

  • Rydych yn mynd dros derfyn gorddrafft eich banc yn rheolaidd.
  • Rydych yn aml yn cymryd benthyciad arian parod ar eich cerdyn credyd.
  • Rydych wedi cyrraedd y terfyn ar eich cardiau credyd neu wedi eu pasio.
  • Dim ond yr ad-daliad lleiaf y gallwch fforddio ar eich biliau cardiau credyd.
  • Rydych yn aml yn defnyddio rhyw ffurf o gredyd i dalu'ch biliau cartref.

Enghraifft o argyfwng dyledion:

  • Mae beilaid (neu swyddogion y siryf yn Yr Alban) ar fin ymweld chi neu eisoes wedi galw.
  • Rydych wedi derbyn hysbysiad dadfeddiannu o'ch cartref.
  • Rydych wedi derbyn papurau llys neu ddyddiad ar gyfer gwrandawiad llys.
  • Mae eich nwy neu drydan mewn perygl o gael ei ddatgysylltu.

Os oes gennych broblem dyled, y cam cyntaf yw i gyfaddef hynny i chi eich hun, yna byddwch angen help i ddod â'ch dyledion i drefn.

Pwyl all helpu?

Bydd llawer o fenthycwyr yn gwneud eu gorau i gytuno ar gynllun ad-dalu, yn enwedig os byddwch yn cysylltu â hwy cyn i bethau fynd yn waeth. Gallwch hefyd gael help gan gynghorwyr dyled arbenigol fel y rhai sydd ar ein rhestr o gyrff defnyddiol. Gall cwmnïau rheoli dyled helpu hefyd ond maent yn codi tâl arnoch, felly gofynnwch am hyn o flaen llaw.

Taflen Arian a chyllid

Arian a chyllid [PDF 593KB] PDF

Clawr taflen Arian a chyllid

Cyrff defnyddiol

Cyllid a Thollau EM

Gwybodaeth am gredydau treth a'ch hawl iddynt.

National Debtline

Ymgynghorwyr arbenigol sy'n cynnig cyngor cyfrinachol am ddim a chymorth i ddelio gyda dyled bersonol.