Benthyg arian

Mae'n rhaid i chi dalu llog ar unrhyw arian a fenthyciwyd, felly sicrhewch eich bod yn gwybod beth yw'r APR (Cyfradd Ganrannol Flynyddol) a'r cyfanswm bydd rhaid i chi ei ad-dalu.

Chwiliwch o gwmpas am y fargen orau oherwydd gall cyfraddau llog amrywio, a chofiwch ddarllen eich cytundeb credyd cyn ei lofnodi. Ceisiwch gael cyngor annibynnol os nad ydych yn siwr am unrhyw beth.

Cardiau credyd a Chardiau siop

Efallai gallwch chi a'r rhiant arall fod yn atebol yn gyfreithlon am gyfrifon cardiau credyd neu gardiau siop ar y cyd. Hyd yn oed os byddwch yn canslo cardiau ar y cyd, gall y naill ohonoch gael eich gwneud yn gwbl atebol am y ddyled gyfan.

Ail gerdyn

Nid yw cael ail gerdyn ar gyfer cyfrif cerdyn yn gwneud y cyfrif yn gyfrif ar y cyd. Y person a lofnododd i agor y cyfrif yw "prif ddeilydd y cerdyn". Maent yn gyfreithiol gyfrifol am y cyfrif a gall ganslo'r ail gerdyn unrhyw bryd.

Benthyciadau

Byddwch yn ofalus os ydych yn cymryd benthyciad wedi'u diogelu (wedi'i ddiogelu gan ased fel eich cartref). Bydd y gyfradd llog ar y benthyciadau hyn yn llai ond gallech golli eich cartref os na fyddwch yn gallu talu.

Mae rhai cwmnïau yn cynnig benthyciadau "cyfuno" sy'n cyfuno eich holl ddyledion i un. Os byddwch yn ad-dalu dyled gydag arian a fenthyciwyd, efallai bydd rhaid i chi dalu ffi am ei ad-dalu'n gynnar. Ceisiwch gael cyngor annibynnol cyn cyfuno eich dyledion - ewch i cyrff defnyddiol am fwy o wybodaeth am ble i gael cyngor

Taflen Arian a chyllid

Arian a chyllid [PDF 593KB] PDF

Clawr taflen Arian a chyllid

Cyrff defnyddiol

Cyllid a Thollau EM

Gwybodaeth am gredydau treth a'ch hawl iddynt.

National Debtline

Ymgynghorwyr arbenigol sy'n cynnig cyngor cyfrinachol am ddim a chymorth i ddelio gyda dyled bersonol.