Os byddwch yn gwahanu neu'n byw ar wahn i'r rhiant arall, bydd nifer o bethau fyddwch angen eu trefnu. Bydd deall eich hawliau cyfreithiol a'ch cyfrifoldebau yn eich helpu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus, yn enwedig am les eich plentyn.
Mae gan bob rhiant (gan gynnwys rhieni mabwysiadol) ddyletswydd gyfreithiol i dalu am gostau byw eu plentyn, os oes ganddynt gyfrifoldebau rhiant ai pheidio. Ond gall y cyfrifoldeb rhiant hwn effeithio ar bethau eraill, felly mae'n bwysig deall beth ydy hyn ac os ywn gymwys i chi.
Beth yw cyfrifoldeb rhiant?
Cyfrifoldeb rhiant yw'r enw cyfreithiol ar y dyletswyddau sydd gan riant i'w plentyn. Mae'n cynnwys pethau fel diogelu plentyn a darparu cartref iddynt, yn ogystal gwneud yn si#373;r bod y plentyn yn cael addysg.
Os oes gennych gyfrifoldebau rhiant, bydd gennych hefyd rai hawliau. Bydd y rhain yn cynnwys pethau fel dewis pa grefydd fydd y plant yn ei ddilyn a'r hawl i gael cyswllt gyda hwy.

