Defnyddio'r llysoedd

  1. Beth gall y llys ei wneud?
  2. Osgoi mynd ir llys

Beth gall llys ei wneud?

Mae gan y llys bwerau i wneud gorchmynion ynglŷn ag arian cwpl mewn achosion o ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil, felly byddai'n gwneud synnwyr i gael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr.

Gall llys wneud gorchmynion ar gyfer:

  • taliadau rheolaidd gan neu i'ch cynbartner. Gall y rhain fod am amser penodedig, neu hyd nes bydd un ohonoch yn marw, neu hyd nes bydd y cynbartner sy'n cael y taliadau yn ail briodi
  • taliadau rheolaidd o gynhaliaeth plant drwy gydsyniad i'r rhiant mae'r plentyn yn byw gyda hwy fel arfer
  • cyfandaliad ar gyfer neu gan eich cyn-bartner (ac am eich plentyn os bydd angen)
  • gwerthiant eiddo neu dir
  • trosglwyddo eiddo neu asedau i un rhiant
  • cloi asedau (fel na allent gael eu gwerthu) neu, os ydynt eisoes wedi'u gwerthu, gwrthdroi'r gwerthiant
  • rhoi canran o'ch cronfa bensiwn chi neu'ch cyn bartner i'r llall. Gallai hyn olygu cael rhan o'r gronfa nawr fel eich bod yn cael cronfa bensiwn eich hunan, neu gael taliad ohono ar eich cyfer chi.

Osgoi mynd ir llys

Oes bosib osgoi mynd i'r llys?

Dim yn gyfan gwbl. Bydd angen i chi ddefnyddio'r llysoedd os ydych eisiau cael ysgariad neu ddiddymu partneriaeth sifil. Ond hyd yn oed os gwnewch hyn, nid oes rhaid i chi bob amser fynychu gwrandawiad llys. Os yw'r ddau ohonoch yn cytuno i'r ysgariad neu i Ddiddymur bartneriaeth sifil ni fydd angen i'r un ohonoch fynychu'r llys. Gellir delio 'r achos ar bapur.

Dod i gytundeb drwy ddefnyddio cyfryngu

Gallech ddefnyddio cyfreithiwr i'ch helpu i ddod i gytundeb ynglŷn ch plentyn. Ond os na allwch ddod i gytundeb efallai bydd rhaid i chi fynd i'r llys a bydd barnwr yn penderfynu ar eich rhan.

Mae cyfryngu yn ffordd arall i'w ystyried a gall fod yn llai o straen, byddwch chi a'r rhiant arall yn dod at eich gilydd gydag un neu fwy o gyfryngwyr hyfforddedig i weld os allwch ddod i gytundeb. Fel arfer bydd rhaid i chi dalu am wasanaeth cyfryngu ond efallai bydd yn rhatach i chi wneud hyn nag i bob un ohonoch dalu am gyfreithiwr a mynd drwy wrandawiad llys.

Mantais arall yw bod y broses o gyfryngu yn gallu'ch helpu chi ach partner weithio'n well gyda'ch gilydd. Gall hyn fod yn bwysig pan fyddwch yn gwneud trefniadau ar gyfer eich plentyn.

Gall y Llinell Gymorth Cyfryngu Teuluol roi mwy o wybodaeth i chi am sut mae cyfryngu yn gweithio a sut i ddod o hyd i gyfryngwr yn eich ardal chi. Ewch i www.familymediationhelpline.co.uk neu ffoniwch 0845 60 26 627.