Pwy sydd chyfrifoldeb rhiant?

Mae gan fam gyfrifoldeb rhiant am ei phlentyn yn awtomatig. Mae gan dad hefyd gyfrifoldeb rhiant awtomatig os oedd yn briod mam y plentyn ar amser genedigaeth y plentyn (neu yn yr Alban, pan genhedlwyd y plentyn).

Os nad yw tad biolegol yn briod gydar fam, nid oes ganddo gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig, hyd yn oed os oedd yn byw gyda'r fam am amser hir. Mae pedair ffordd y gall tad biolegol di-briod gael cyfrifoldeb rhiant:

  • Priodi mam y plentyn
  • Cofrestru genedigaeth y plentyn gyda'i enw ar y dystysgrif geni. Os yw tystysgrif y plentyn wedi'i gofrestru yn barod, yna bydd rhaid i'r tad ail gofrestru. Bydd angen caniatd y fam i wneud hyn ac ni all unrhyw dad arall fod wedi'i enwi ar y dystysgrif yn barod
  • Gwneud cytundeb Cyfrifoldeb Rhiant gyda'r fam. Yn yr Alban, gelwir hyn yn Gytundeb Cyfrifoldeb Rhiant a Hawliau Rhiant
  • Cael gorchymyn llys. Dyfarniad swyddogol a wneir gan lys yw gorchymyn llys. Mewn egwyddor, gall gydnabod bod gan dad gyfrifoldeb rhiant hyd yn oed pan na fydd y fam am i hyn ddigwydd.

Gall tad gael cyfrifoldeb rhiant heb erioed fyw gyda'r fam.

Beth am lys rieni?

Nid yw ysgaru neu wahanu yn golygu bod eich cyfrifoldeb rhiant yn dirwyn i ben. Rydych yn parhau gyda'r un hawliau a chyfrifoldebau am eich plentyn os byddwch yn byw gyda hwy ai peidio. Golyga hyn os byddwch yn dod yn lys riant drwy briodi rhywun sydd chyfrifoldeb rhiant am blentyn, nid ydych yn dod i rannu'r cyfrifoldeb hwnnw yn awtomatig.

Taflen hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol

Hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol [PDF 392KB] PDF

 Taflen am Hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol - clawr

Cyrff defnyddiol

Cyngor Cyfreithiol Cymunedol

Gwasanaeth cyfreithiol wedi'i ariannu gan y llywodraeth sy'n cynnig cyngor am ddim i'r rhai sy'n gymwys i gymorth ariannol yng Nghymru a Lloegr.

CAFCASS (Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd)

Mae Cafcass yn gweithio gyda theuluoedd a gyfeirir atynt gan y llysoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae'n helpu teuluoedd ddod i gytundeb ynglŷn threfniadau ar gyfer eu plant. Mae gan y wefan wybodaeth ddefnyddiol, astudiaethau achos, cyngor a manylion cyswllt.

The Law Society of Scotland

Corff llywodraethol ar gyfer cyfreithwyr yn yr Alban. Hyrwyddo diddordebau cyfreithwyr a'r cyhoedd mewn perthynas materion cyfreithiol.

Resolution

Cyfreithwyr teulu syn canolbwyntio ar ddatrys anghydfodau teuluol mewn ffordd adeiladol.