Nid yw pobl sy'n byw gyda'i gilydd yn gweddu'n hawdd i'r system gyfreithiol. Mewn rhai
rhannau o'r gyfraith byddwch yn cael eich ystyried fel pe baech yn briod, ac mewn rhannau eraill cewch eich trin
yn wahanol.
Yng Nghymru a Lloegr, nid yw byw gyda'ch gilydd yn rhoi unrhyw hawliau cyfreithiol, dyletswyddau na chyfrifoldebau
i chi tuag at eich gilydd. Ond mae dal gennych gyfrifoldeb ariannol am eich plentyn, hyn yn oed os nad oes
gennych gyfrifoldeb rhiant.
Os ydych yn gwahanu ac y gallwch gytuno ar eich trefniadau eich hunan, ni fydd angen i chi fynd i'r llys i
gael gorchymyn ynglŷn ag arian neu'ch plant. Ni allwch wneud cais am gynhaliaeth ariannol ar eich cyfer chi
eich hun gan y rhiant arall, ond gallwch wneud cais am gynhaliaeth ar gyfer eich plentyn. Hefyd, os bydd un ohonoch
yn marw, nid oes gan y rhiant arall yr hawl i etifeddu eu heiddo yn awtomatig.
Yn yr Alban mae gennych rywfaint o hawl i wneud cais am fantais ariannol neu anfantais, ble mae un rhiant wedi
elwa o'r cyfraniadau ariannol a wnaed gan y llall o ganlyniad i fyw gyda'i gilydd.
Pwy sydd yn berchen ar beth?
Os ydych chi a'r rhiant arall wedi byw gyda'ch gilydd ond heb briodi, bydd y llysoedd yn defnyddio
egwyddorion cyffredinol i benderfynu pwy sydd yn berchen ar beth.
- Os ydych wedi talu am rywbeth, chi sy'n berchen arno, heblaw eich bod wedi ei roi i'r person arall
fel anrheg.
- Os ydych wedi prynu rhywbeth gyda'ch gilydd ac wedi rhannu'r gost yn gyfartal, yna mae'n eiddo i'r
ddau ohonoch.
- Os byddwch wedi prynu rhywbeth allan o gronfa ar y cyd ac nid yw'n glir pwy gyfrannodd beth i'r
cronfeydd hyn, yna rydych yn berchen arno yn gyfartal.
- Os ydych wedi cyfrannu mwy at rywbeth rydych wedi ei brynu gyda'ch gilydd, dyna faint ohono fyddwch
yn berchen arno.
- Os bydd y ddau ohonoch wedi cyd-gyfrannu eich arian i gyfrif banc, sydd wedi ei sefydlu i ddelio threuliau
cartref ar y cyd, byddwch yn berchen ar hanner bob un, oni bai eich bod wedi gwneud cytundeb am gael
cyfraniad anghyfartal.
Efallai bydd rhai achosion ble nad yw'r rheolau hyn yn gymwys, felly dylech gael cyngor cyfreithiol cyn
gwneud penderfyniad. Mae'n werth ceisio dod i gytundeb rhwng eich gilydd oherwydd bod y gost o weithio allan pwy
yn gyfreithiol sy'n berchen ar beth yn aml yn fwy na gwerth yr eiddo. Cofiwch, ni allwch gael
cymorth cyfreithiol i'ch helpu gyda'r math yma
o gais.