Cynhaliaeth plant
Gall plant fod mewn peryg o ddioddef caledi ariannol pan fydd cwpl yn gwahanu, gan ei bod yn aml yn costio mwy i
rieni fyw ar wahn. Felly, rhaid i riant sydd ddim yn byw gyda'u plentyn barhau i rannu'r cyfrifoldeb ariannol
amdanynt.
Mae hyn yn golygu talu cynhaliaeth plant -
cymorth ariannol dibynnol a rheolaidd sy'n helpu tuag at gostau byw plentyn o ddydd i ddydd. Gall gwneud trefniadau
cynhaliaeth gymryd amser felly dylai gwneud trefniadau cynhaliaeth plant fod yn flaenoriaeth.
Sut i drefnu cynhaliaeth plant
Mae tair ffordd y gallwch drefnu i dalu neu gael cynhaliaeth plant:
- trwy gytundeb teuluol
- trwy'r CSA, neu
- trwy orchymyn llys.
Darllenwch fwy am eich opsiynau cynhaliaeth plant.
Gwneud ewyllys
Mae ewyllys yn gosod allan pwy fydd yn cael eich arian ac eiddo ar l eich marwolaeth. Gallwch ei ddefnyddio
i benderfynu sut caiff eich asedau eu rhannu ac mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer eich plentyn os byddwch yn marw.
Os byddwch yn marw heb ewyllys, bydd eich arian ac eiddo yn cael ei rannu yn unol 'r gyfraith, ac efallai na
fydd eich arian yn mynd i'r lle y dymunwch. Os ydych wedi gwahanu oddi wrth y rhiant arall, efallai y byddwch
eisiau gwneud ewyllys neu newid yr un rydych wedi'i wneud yn barod.
Efallai y bydd angen i chi feddwl am apwyntio gofalwr ar gyfer eich plentyn yn yr ewyllys. Bydd hyn yn rhywun all
gymryd cyfrifoldeb am eich plentyn os nad oes unrhyw un arall gyda chyfrifoldeb rhiant os byddwch yn marw. Mae hyn o
bwysigrwydd mawr os mai chi yn unig sydd chyfrifoldeb rhiant am eich plentyn.
Trefnu pethau bob dydd
Efallai byddwch eisiau cytuno ar bethau bob dydd fel:
- iechyd pwy fydd yn mynd a'r plentyn am ymchwiliadau iechyd rheolaidd, gyda phwy fydd
angen cysylltu ynglŷn thriniaeth iechyd a beth fyddai'n digwydd petai un ohonoch yn mynd yn rhy wael
i edrych ar l eich plentyn
- crefydd neu ddiwylliant pa grefydd fydd y plentyn yn ei ddilyn gan gynnwys dyddiau
neu ddigwyddiadau arbennig y gallech fod yn eu dathlu
- addysg dewis ysgol neu feithrinfa ar gyfer eich plentyn, trefniadau mynd a'r plant i ac
o'r ysgol a sicrhau y gall y ddau ohonoch gael eich cynnwys yn natblygiad eich plentyn a digwyddiadau
arbennig yn yr ysgol
- gwyliau sut byddwch yn rhannu'r gofal am eich plentyn yn ystod gwyliau'r ysgol, neu
pryd y cewch fynd 'ch plentyn allan or wlad.