Cymorth cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr
Yng Nghymru a Lloegr, fe fyddwch yn cael cymorth cyfreithiol i helpu gyda chostau cyfreithiol am wahanu os ydych yn cael:
- Cymhorthdal Incwm
- y Credyd Gwarantedig o Bensiwn Credyd
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, neu
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm.
Efallai byddwch hefyd yn cael cymorth cyfreithiol os:
- oes gennych gynilion neu asedau werth llai na £8,000, ac
- mae'ch incwm misol (cyn treth) yn llai na £2,657, ac
- mae'ch incwm gwario misol (beth sy'n weddill ar l didynnu Yswiriant Gwladol, treth, rhent/morgais a threuliau eraill) yn llai na £733, neu
- rydych yn dioddef trais yn y cartref neu yn cael eich cam-drin.
Roedd y ffigurau uchod yn gywir ym mis Awst 2009.
Nid yw cael cymorth cyfreithiol yn golygu o reidrwydd y bydd eich cyngor i gyd am ddim. Mewn rhai achosion, golyga na fyddwch yn gorfod talu'r swm llawn.
I'ch helpu i weld os cewch gymorth cyfreithiol, defnyddiwch y cyfrifydd cymorth cyfreithiol ar y wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol, www.communitylegaladvice.org.uk neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0845 3454345
