Sut mae'r llysoedd yn rhannu asedau

Pan fydd y llysoedd yn rhannu asedau cwpl priod, bydd y pethau fyddant yn eu hystyried yn dibynnu os ydynt yn byw yng Nghymru, Lloger neu'r Alban

  1. Yng Nghymru a Lloegr
  2. Yn yr Alban

Yng Nghymru a Lloegr

Mae'r llysoedd yng Nghymru a Lloegr yn cymryd nifer o ffactorau i ystyriaeth wrth benderfynu pwy sy'n cael beth. Mae hyn yn cynnwys:

  • lles y plentyn a chostau gofalu amdanynt yn y dyfodol
  • incwm y ddau ohonoch, faint fyddwch yn gallu ei ennill ac unrhyw eiddo neu asedau rydych yn berchen arnynt nawr, neu y gallech fod yn berchen arnynt yn y dyfodol
  • yr anghenion ariannol a chyfrifoldebau sydd gennych neu sy'n debygol o fod gennych yn y dyfodol
  • safon byw'r teulu cyn ir berthynas ddod i ben
  • eich oedran a pha mor hir y parhaodd y briodas neu bartneriaeth sifil
  • unrhyw anabledd meddyliol neu gorfforol sydd gan y naill berson
  • y cyfraniadau a wnaed gan y ddau ohonoch, neu rydych yn debygol o wneud yn y dyfodol, tuag at les y teulu. Mae hyn yn cynnwys cyfraniadau ariannol ac fel arall, er enghraifft edrych ar l y cartref neu ofalu am y teulu
  • gwerth unrhyw fuddiant ariannol y gallech ei golli oherwydd diwedd priodas neu bartneriaeth sifil, fel pensiwn.
  • os oes un rhiant wedi ymddwyn yn ddrwg tuag at y llall. Bydd y llys dim ond yn ystyried hyn os byddai'n annheg i beidio gwneud hynny.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i siarad gyda chyfreithiwr a allai ddweud wrthych beth fydd llys yn debygol o benderfynu yn eich achos chi.

Yn yr Alban

Mae'r llysoedd yn yr Alban yn cymryd ffactorau gwahanol i ystyriaeth wrth benderfynu pwy sy'n cael beth. Mae'r llysoedd yn yr Alban yn ceisio gweithio allan ffordd resymol i rannu asedau, yn dibynnu ar faint o arian ac eiddo sydd gan bob un ohonoch, faint o ddyled sydd gennych a faint rydych yn gallu ei ennill.

Yn benodol, mae'r llysoedd yn yr Alban yn edrych ar y ffactorau canlynol:

  • gwerth unrhyw eiddo (ar l tynnu dyledion i ffwrdd) a gronnwyd yn ystod y briodas neu bartneriaeth. Yn gyffredinol, dylai hyn gael ei rannu yn gyfartal, oni bai bod amgylchiadau eithriadol, fel bod un ohonoch wedi prynu'r eiddo cyn i chi briodi
  • os oes un ohonoch wedi elwa yn ariannol o gyfraniadau'r llall er enghraifft, os oeddech yn gallu cael ffordd o fyw na allech fod wedi gallu ei fforddio ar ben eich hunan
  • os yw un ohonoch wedi dioddef yn ariannol - er enghraifft, drwy roir gorau ich gyrfa er mwyn gofalu am eich teulu
  • y costau sy'n gysylltiedig gyda gofalu am blant ar l ysgariad/diddymiad. Dylai'r rhain gael eu rhannu yn deg rhyngoch, felly bydd y llysoedd yn edrych ar bethau fel ble mae'r plant yn mynd i fyw ac os bydd rhaid i'r person sy'n gofalu am y plant roi heibior cyfle i weithio er mwyn gofalu am y plant
  • os oedd un ohonoch yn dibynnu yn ariannol ar y llall a nawr angen cymorth i addasu i'r amgylchiadau ariannol newydd
  • os bydd un ohonoch yn debygol o ddioddef caledi ariannol difrifol oherwydd yr ysgariad/diddymiad.

Ni fydd yr holl ffactorau a grybwyllwyd uchod yn berthnasol ym mhob achos, felly gallai fod yn ddefnyddiol i chi siarad gyda chyfreithiwr a allai ddweud wrthych beth fydd y llys yn debygol o benderfynu.

Fydd angen i mi werthu fy nghartref?

Dim o reidrwydd. Mae gennych nifer o opsiynau, fel:

  • newid faint o gyfran sydd gennych yn eich cartref
  • cytuno i ohirio gwerthu eich cartref hyd at amser penodedig yn y dyfodol
  • penderfynu rhwng eich gilydd sut bydd yr arian o'r gwerthiant yn cael ei rannu
  • penderfynu rhwng eich gilydd pwy fydd yn talu'r morgais.

Mae yn bwysig penderfynu ble bydd y plentyn yn byw cyn penderfynu gwerthu neu beidio. Os na allwch gytuno ar y pethau hyn, bydd barnwr yn gwneud gorchymyn llys ar eich cyfer.