Hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol

Mae llawer o rieni wedi dewud wrthym mai materion cyfreithiol yw un o'r prif bryderon sy'n eu hwynebu wrth wahanu. Gall camau cyfreithiol sydd heb eu dartys fod yn straen a gall ddod yn rhwystr i ddarparu ar gyfer lles eich plentyn trwy gynhaliaeth plant.

Os ydych yn gwahanu neu'n byw ar wahân i'r rhiant arall, mae'n rhiad i chi wybod beth yw eich hawliau cyfreithiol o ran eiddo a gweithredoedd cyfreithiol. Gallai fod cyfrifoldeb arnoch fel rhiant tuag at eich plentyn ac yn ogystal, efallai bydd gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i dalu cynhaliaeth.

Lawr-lwythwych ein taflen Hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol [PDF 448KB] PDF i ddod o hyd i sut gall y gyfraith effeithio arnoch chi a'ch plentyn. Mae'r daflen yn rhoi gwybodaeth gyffredinol am sut gall y gyfraith effeithio ar rieni sy'n gwahanu, ac mae'n rhoi gwybodaeth bellach ar sut i ddod o hyd i help cyfreithiol. Mae hefyd yn egluro'r meini prawf ar gyfer cael Cymorth Cyfreithiol, sef help profesiynnol ar faterion cyfreithiol, sydd yn rhad ac am ddim.

Gall dechrau delio â materion cyfreithiol fod yn anodd i ddechrau. Ond bydd deall eich hawliau a chyfrifoldebau yn eich helpu i gynllunio ar eich cyfer chi a'ch plentyn gyda mwy o hyder.

Taflen Hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol

Lawrlwytho [PDF 448KB]

Hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol PDF

Cyrff defnyddiol

Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (yr enw newydd ar Galw Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol)

Gwasanaeth cyfreithiol cyfrinachol a ariennir gan y llywodraeth sy'n cynnig cymorth am ddim i'r rhai hynny sy'n gymwys i gael cymorth cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.

Gwasanaeth Cynghori Llysoedd y Plant a'r Teulu (Cafcass)

Mae Cafcass yn gweithio gyda theuluoedd a gyfeirir atynt gan y llysoedd yng Nghymru a Lloegr. Helpu teuluoedd i ddod i gytundeb ar gyfer eu plant. Ceir gwybodaeth ddefnyddiol ar eu gwefan yn ogystal ag astudiaethau achos, cyngor a chysylltiadau eraill.

Cymdeithas y Cyfreithwyr Yr Alban

Corff llywodreathol cyfreithwyr yn Yr Alban. Yn hybu diddorbedau cyfreithwyr a'r cyhoedd mewn perthynas â materion cyfreithiol.

Resolution

Cyfreithwyr teulu sy'n canolbwyntio ar anghydfodau teuluol.