Pryderon cyffredin am wahanu

Pan fyddwch yn byw ar wahân neu'n gwahanu o'r rhiant arall, efallai bydd rhaid i chi ddelio â llawer o faterion gwahanol. Er nad ydym yn arbenigwyr yn yr holl feysydd hyn, rydym yn gwybod eu bod yn cael effaith sylweddol ar gynhaliaeth plant ac ar les y plentyn. Darllenwch y wybodaeth rydym wedi'i chynhyrchu gyda help gan sefydliadau arbenigol.

  Hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol  

Pan fyddwch yn gwahanu oddi wrth y rhiant arall, gallai fod trefniadau cyfreithiol y bydd yn rhaid i chi eu gwneud. Ond, mae help a chyngor ar gael i helpu gyda'ch hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol.

  Chi a'ch plentyn  

Os nad yw'r plentyn yn byw gyda'r ddau riant, mae pethau y gallwch eu gwneud i aros yn rhan o'u bywydau, rhoi eu teimladau yn gyntaf a rhoi cefnogaeth emosiynol iddynt.

  Eich cartref - hawliau ac opsiynau  

Gall eich penderfyniadau effeithio ar eich plentyn hyd yn oed os ydych yn byw ar wahân iddynt hwy a'r rhiant arall. Bydd gwybod am eich opsiynau cartrefu yn eich helpu i allu gwneud penderfyniadau.

 

  Arian a chyllid  

Pan fyddwch yn byw ar wahân neu'n gwahanu oddi wrth y rhiant arall, gallech orfod gwneud llawer o drefniadau ariannol. Ond mae camau y gallwch eu cymryd er mwyn rheoli eich materion ariannol.

  Hawliau ac opsiynau gwaith  

Nid yw'n hawdd cydbwyso gwaith gyda bod yn rhiant a darparu ar gyfer eich plentyn. Ond bydd deall eich hawliau ac opsiynau gwaith yn eich helpu i gynllunio gyda rhagor o hyder.

  Trais yn y cartref  

Os ydych wedi dioddef o drais yn y cartref, gallech fod yn teimlo na allwch siarad gydag unrhyw un am hyn. Ond mae pobl y gallwch siarad â hwy yn ddiogel a gallwch gymryd camau ymarferol i wneud pethau'n well.