Beth fydd yn digwydd?
Fel arfer, y cam cyntaf fydd i gysylltu â gwasanaeth digartrefiaeth eich awdurdod lleol. Os byddwch angen cysylltu â hwy gyda'r nos neu dros y penwythnos bydd y switsfwrdd yn gallu rhoi rhif argyfwng i chi.
Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol dderbyn cais am help gan unrhyw un sy'n ymddangos i fod yn ddigartref neu sy'n debygol i fod yn ddigartref o fewn 28 diwrnod. Mae ganddynt hefyd ddyletswydd i helpu'r digartref, a byddant yn gwneud ymholiadau i weld os ydych yn un o'r bobl o'r gwrpiau sy'n rhaid iddynt darparu llety ar eu cyfer.
Y pedwar cam o'r prawf hwn yw:
- Ydych chi'n gymwys i gael help?
- Ydych chi'n ddigartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 28 diwrnod yng Nghymru a Lloegr neu 2 fis yn yr Alban, yn ôl y gyfraith?
- Oes gennych angen blaenoriaethol?
- Ydych yn ddigartref heb fwriad?
Hefyd, bydd yr awdurdod lleol yn asesu os oes gennych gysylltiad lleol gyda'r ardal ai peidio, er enghraifft os oes gennych deulu yn yr ardal.
Dylai eich awdurdod lleol gychwyn ar eich cais digartrefiaeth cyn gynted â'u bod yn gwybod eich bod yn berson digartref. Os na fydd yr awdurdod yn gadael i chi wneud cais, gofynnwch am resymau ysgrifenedig yn egluro pam. Dylai swyddog digartrefiaeth neu ymgynghorydd tai gyfweld â chi ar yr un diwrnod, neu ar y diwrnod gwaith nesaf os gwnewch eich cais ar ôl oriau swyddfa.
Ar ddiwedd y cyfweliad dylai fod yn glir i chi beth mae'r awdurdod lleol am ei wneud nesaf, pwy fydd yn cysylltu â chi ac erbyn pryd.
Yng Nghymru a Lloegr bydd yr awdurdod lleol yn gwneud ymholiadau i'w helpu i benderfynu pa ddyletswydd gyfreithiol sydd ganddynt i'ch helpu chi. Dylai hyn fod o fewn 33 diwrnod gwaith, ond ni fydd hyn yn digwydd bob tro.
Yn yr Alban, dylai'r awdurdod lleol roi penderfyniad i chi o fewn 28 diwrnod os ydych yn gymwys am lety parhaol. Yn y cyfamser, dylent gynnig llety dros dro 'addas'.
