Aros yn y cartref teuluol neu adael

  1. Taliadau rhent neu forgais
  2. Ydy byw ar wahân yn effeithio ar fudd-daliadau?

Cadw at daliadau rhent neu forgais

Os ydych wedi gwahanu oddi wrth y rhiant arall a bod eich costau yn debygol o fynd i fyny, dylech ystyried yn iawn os gallwch mewn gwirionedd barhau i dalur rhent neur morgais. Os nad ydych yn siŵr, dylech weithio allan cynllun gwario yn sydyn.

Wrth wneud cynllun gwario, os byddwch yn penderfynu cadwr cartref teuluol, dylech ystyried y canlynol:

  • Gallech fod yn gymwys i gael budd-daliadau ychwanegol a chredydau treth ar gyfer costau byw eich plant. Edrychwch ar y wybodaeth am y mathau gwahanol o gymorth ariannol allai fod ar gael i chi.
  • Gallech fod yn gymwys i gael cynhaliaeth ar eich cyfer chi eich hunan os ydych yn briod âr rhiant a'u bod yn gallu fforddio i dalu. Dylech gael cyngor cyfreithiol cyn gwneud unrhyw gytundeb ffurfiol gydar rhiant arall.

Nid yw rhannu tŷ yn mynd i weithio yn y pen draw, felly bydd rhaid i chi ar rhiant arall benderfynu beth ddylai ddigwydd gydar tŷ. Os na allwch ddod i gytundeb rhwng eich gilydd, yna gallai llys wneud hyn ar eich rhan.

Ydy byw ar wahân yn mynd i effeithio ar fudd-daliadau a chredydau treth?

Ydy, mae.

Os nad ydych chi ar rhiant arall yn byw gydach gilydd neu os oes gennych 'aelwyd ar wahân', bydd yn rhaid ir ddau ohonoch wneud eich ceisiadau eich hunain am fudd-daliadau a chredydau treth ar wahân. Mae cael aelwyd ar wahân yn golygu y gallwch dal fyw yn yr un cartref, ond eich bod yn gwneud pethau bob dydd fel gwneud a bwyta prydau bwyd ar wahân.

Fel arfer, os mai chi ywr rhiant syn brif ofalwr dyddiol, byddwch yn gwneud eich cais am fudd-daliadau neu gredydau treth (neur ddau) fel rhiant unigol, a bydd y rhiant arall yn gwneud eu cais eu hunan fel oedolyn sengl.

Os byddwch yn gwerthu eich cartref a bod gennych fwy na £16,000 ar ôl, gallai hyn effeithio ar eich hawl i gael rhai budd-daliadau. Ond os ydych yn defnyddior arian i brynu cartref arall, gall yr arian gael ei anwybyddu at ddibenion budd-daliadau am chwe mis. Ewch in hadran am faterion ariannol i gael mwy o wybodaeth.