Os ywr denantiaeth ar-y-cyd
Os ydych wedi gwahanu oddi wrth y rhiant arall, mae gan y ddau ohonoch hawl i fyw yno neu i gasglu eich
eiddo, oni bai bod gorchymyn llys yn eich rhwystro. Os ydych yn cael trafferth mynd i mewn ir cartref, gall
llys eich helpu.
Fodd bynnag, os yw yn amhosibl ir ddau ohonoch fyw yn y cartref teuluol syn cael ei rentu, neu os na
allwch gytuno pwy fydd yn aros, yna efallai y bydd yn rhaid ir llys benderfynu. Naill ffordd, dylech gael
cyngor cyfreithiol.
Os oedd y ddau riant yn gyfrifol am y rhent, a bod un yn gadael, yna maen rhaid ir person syn dal i fyw yn
y cartref dalur rhent i gyd.
Os oes gan un ohonoch Orchymyn Atal yn eich erbyn, efallai na fyddwch yn gallu mynd i mewn ich cartref.
Os ywr denantiaeth mewn un enw yn unig
Os ydych yn credu bod y rhiant arall am roi rhybudd i adael, a allai ddod âch tenantiaeth i ben,
dylech gael cyngor tai neu gyngor cyfreithiol ar unwaith.
Os mai chi ywr rhiant syn brif ofalwr dyddiol eich plentyn ac na wnaiff eich landlord preifat, cymdeithas tai
neu gyngor lleol roir denantiaeth yn eich enw chi yn unig, yna dylech gael cyngor arbenigol i weld os gallai
llys roir denantiaeth i chi.
Mae Shelter Cymru 0845 075 5005 yn rhoi cyngor a gwybodaeth annibynnol am ddim. Mae gan
y ganolfan Cyngor Ar Bopeth ymgynghorwyr tai arbennig (edrychwch yn y llyfr ffôn) neu ewch i
www.citizensadvice.org.uk
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil
Yng Nghymru a Lloegr, mae gan y ddau ohonoch yr hawl i aros neu i ddychwelyd ir eiddo, a gallai llys
orfodir hawliau hyn. Os bydd y rhiant arall yn gadael heb ildior denantiaeth:
- byddwch yn gyfrifol am y rhent
- gallech fod yn gymwys i gael Budd-dal Tai
- gallai llys roir denantiaeth i chi ar ôl i chi gael ysgariad, neu ddiddymu eich
partneriaeth sifil.
Os nad ydych wedi priodi, neu os nad ydych mewn partneriaeth sifil gydach gilydd
Os nad ywr denantiaeth yn eich enw chi a bod y rhiant arall yn rhoi 'rhybudd rhesymol' i chi adael, nid
oes gennych unrhyw hawl cyfreithiol i aros yn yr eiddo hyd yn oed oes mai chi ywr rhiant syn brif ofalwr dyddiol
y plentyn.
Ond os bydd llys yn penderfynu y dylech gael aros, yna caiff Gorchymyn Meddiannu ei ddyfarnu i roir hawl i
chi. Os ydych eisiau aros, dylech gael cyngor cyfreithiol arbenigol.