Byw gyda'ch gilydd ar ôl i'r berthynas ddod i ben

Mae rhai rhieni yn parhau i fyw gyda'i gilydd hyd yn oed ar ôl i'w perthynas ddod i ben. Er mwyn byw ar wahân yn yr un cartref bydd angen i chi rannu'r lle rhwng y ddau ohonoch, neu rannu'r lle mewn rhyw ffordd arall.

Gallai cyfryngu fod o help i chi ddod i gytundeb am sut i fyw gyda'ch gilydd yn yr un cartref. Os na fydd hyn yn helpu, efallai mai cael cyngor cyfreithiol fydd eich unig opsiwn.

Er mwyn dod o hyd i gyfryngwr lleol gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Cyfryngu Teulu Cenedlaethol ar 0845 602 6627 neu Relate Cymru yn www.relatecymru.org.uk

Taflen Eich Cartref - Hawliau ac Opsiynau

Eich Cartref - Hawliau ac Opsiynau [PDF 537KB] PDF

 Taflen am Eich Cartref - Hawliau ac Opsiynau  - clawr

Cyrff defnyddiol

Shelter Cymru

Yn rhoi cymorth a gwybodaeth am ddim i unrhyw un sydd â phroblem cartrefu.

Cartrefi Cymunedol Cymru

Y corff aelodaeth ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru, pob un yn gweithredu heb elw ac yn cynnig tua 114,000 o gartrefi a gwasanaethau tai ledled Cymru.