Bydd yn well i bawb, gan gynnwys eich plentyn, os gallwch ddod i gytundeb am bwy fydd yn cael aros yn y cartref teuluol. Gallech gael help tuag at y gost o gyfryngu a chyngor cyfreithiol os na allwch chi a'r rhiant arall ddod i gytundeb.
Os nad ydych wedi priodi a bod y cartref yn eich enw chi yn unig, gallwch wneud cais i'r llys am orchymyn i ddiarddel y rhiant arall. Ni allwch wneud hyn os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, oni bai eich bod yn dioddef o drais yn y cartref yn eich erbyn gan y person sydd angen cael ei diarddel.

