Os mai dim ond un rhiant sy'n berchen ar y cartref

  1. Priod (neu mewn partneriaeth sifil)
  2. Dim yn briod nac mewn partneriaeth sifil

Os ydych yn briod (neu'n mewn partneriaeth sifil) Yng Nghymru neu yn Lloegr

Os ydych yn briod (neu mewn partneriaeth sifil) a dim ond enw un rhiant sydd ar y gweithredoedd eiddo, fel arfer bydd yr hawl gan y ddau ohonoch i barhau i fyw yn yr eiddo hyd nes cewch ysgariad, diddymiad o'ch partneriaeth sifil neu wahaniad barnwrol.

Gellir newid yr hawliau hyn drwy orchymyn llys felly ni ddylech ddibynnu ar hyn ym mhob sefyllfa. Dylech siarad gyda chyfreithiwr neu arbenigwr cartrefu os ydych yn ansicr o'ch hawliau.

Os ydych yn briod (neu mewn partneriaeth sifil) Yn yr Alban

Mae gan yr Alban 'hawliau preswylio'. Mae hyn yn golygu os nad ydych yn berchen ar y cartref eich hunan, gallwch dal aros yno neu ddychwelyd iddo. Gallwch hefyd fyw yno am hyd at ddwy flynedd ar ôl i chi stopio byw gyda'ch gilydd fel cwpl, oni bai bod gorchymyn llys yn eich gwahardd.

Ni ellir gwerthu'r tŷ tra bor ddau riant yn byw yno oni bai bod y ddau yn cytuno i werthu neu fod un rhiant yn cael gorchymyn llys.

Os nad ydych yn briod neu'n rhan o bartneriaeth sifil

Os ydych wedi helpu i dalu am y cartref, efallai na all y rhiant arall eich diarddel ohono nac ei werthu heb gael gorchymyn llys. Dylech gael cyngor cyfreithiol a bydd angen i chi roi cymaint o dystiolaeth â phosibl i ategu'ch achos.

Os nad ydych wedi talu tuag at y cartref, efallai na allwch aros hyd yn oed os mai chi ywr rhiant syn brif ofalwr am y plentyn o ddydd i ddydd. Dylech gysylltu gydag ymgynghorydd tai er mwyn cael gwybod am eich hawliau a thrafod eich opsiynau.