Gall fy nghyngor lleol gynnig rhywle i mi fyw?

Mae hyn yn ddibynnol ar os yw'r llety sydd ar gael ganddynt yn addas i chi a'ch plentyn.

Byddant yn ystyried:

  1. faint o rent y gallwch ei fforddio
  2. pa lety sydd ar gael yn lleol
  3. os yw'r maint iawn ar eich cyfer chi a'ch plentyn
  4. ble mae'r llety
  5. unrhyw broblemau iechyd - a fyddai rhywun yn cael trafferth i fynd i fyny grisiau er enghraifft
  6. os ydych chi a'ch plentyn mewn perygl o ddioddef aflonyddwch oherwydd eich tras.

Rhaid i'r cyngor lleol roi eu penderfyniad a'u rhesymau i chi yn ysgrifenedig.

Allaf i herio'r penderfyniad?

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor lleol o fewn 21 diwrnod o dderbyn y llythyr sy'n rhoi'r penderfyniad. Dylai'r llythyr egluro sut gallwch wneud hyn.

Os nad ydych yn fodlon gyda'r llety mae'r cyngor lleol yn ei gynnig, gallwch herio canlyniadau eu hadolygiad hyd yn oed os byddwch wedi derbyn beth sydd ar gael ac wedi symud i mewn.

Os nad ydych yn fodlon gyda'r llety mae'r awdurdod lleol yn ei gynnig, gallwch herio canlyniadau eu hadolygiad hyd yn oed os byddwch wedi derbyn beth sydd ar gael ac wedi symud i mewn.

Dylech gael cyngor arbenigol gan ymgynghorwr arbenigol annibynnol cyn dechrau eich apêl oherwydd bydd gennych siawns gwell o ennill os ydych yn gwybod y rheolau.

Mae Shelter Cymru 0845 075 5005 yn rhoi cyngor a gwybodaeth am ddim am broblemau tai. Mae gan y canolfan Cyngor Ar Bopeth ymgynghorwyr tai arbennig (edrychwch yn y llyfr ffô) neu ewch i www.citizensadvice.org.uk

Taflen Eich Cartref - Hawliau ac Opsiynau

Eich Cartref - Hawliau ac Opsiynau [PDF 537KB] PDF

Taflen am Eich Cartref - Hawliau ac Opsiynau  - clawr

Cyrff defnyddiol

Shelter Cymru

Yn rhoi cymorth a gwybodaeth am ddim i unrhyw un sydd â phroblem cartrefu.

Cartrefi Cymunedol Cymru

Y corff aelodaeth ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru, pob un yn gweithredu heb elw ac yn cynnig tua 114,000 o gartrefi a gwasanaethau tai ledled Cymru.