Os ydych yn berchen ar eich cartref ac rydych yn gwahanu oddi wrth y rhiant arall, bydd angen i chi wneud trefniadau ynglŷn â'ch eiddo.
Mae gan y ddau ohonoch yr hawl i ddychwelyd i'r eiddo oni bai fod gorchymyn llys yn bodoli sy'n eich rhwystro rhag dychwelyd i'r eiddo. Efallai bydd rhaid i chi ddod i gytundeb am bwy fydd yn aros yn y cartref teuluol - gall cyfryngwr helpu os na allwch gytuno. Dylech hefyd gael cymorth cyfreithiol am beth yw'r opsiynau sydd ar gael i chi ac os gallwch ofyn i'r llys benderfynu ar eich rhan.
Os ydych yn ystyried gadael y cartref, mae rhai pethau y dylech eu hystyried cyn gwneud penderfyniad:
- Os oes hawl gennych i aros, ond mae'r rhiant arall wedi eich rhwystro, efallai drwy newid y cloeon, yna gallwch wneud cais i'r llys am Orchymyn Meddiannu (yng Nghymru a Lloegr) neu orchymyn Cau Allan (yn yr Alban).
- Ydych yn rhentu rhywle neu'n aros gyda theulu neu ffrindiau? Yn dechnegol, ni fyddwch yn cael eich ystyried fel bod yn ddigartref a gallai hyn olygu na allwch gael llety gan y cyngor lleol.
- Os gofynnir i chi adael y eich cartref, bydd rhaid i'r awdurdod lleol ystyried os gallant eich helpu ai peidio.
Gwerthu eich cartref
Os ydych am werthu eich cartref a bod enwau'r ddau ohonoch ar y gweithredoedd eiddo yna bydd angen rhannu'r arian rhwng y ddau ohonoch. Gallwch ofyn i'r llys ei rannu ar eich rhan, ond mae hwn yn faes cymhleth iawn o'r gyfraith. Dylech gael cyngor proffesiynol cyn penderfynu mynd trwy'r llys oherwydd gall fod yn ddrud iawn a chymryd cryn amser.

