Pa help y gallech ei gael?
1. Help gan gynghorau lleol
Os ydych yn dianc oddi wrth drais yn y cartref, ni fyddwch yn cael eich trin fel eich bod yn ddigartref
yn fwriadol'. Efallai y bydd yn rhaid i'r cyngor lleol roi llety argyfwng i chi.
Os ydych ofn dioddef trais ble rydych yn byw nawr, gofynnwch am help gan gyngor lleol gwahanol. Mae'n ddyletswydd ar y Gwasanaethau Cymdeithasol i helpu unrhyw blentyn sydd angen llety argyfwng, a gallant helpu'r teulu cyfan sy'n ddigartref.
2. Diogelu eich eiddo
Os yw'r cyngor lleol wedi derbyn eu dyletswydd i'ch cartrefu gall hefyd wneud yn siwr fod eich eiddo yn fwy
diogel neu gallant roi eich pethau i'w storio. Efallai y byddant yn codi ffi am hyn, ond gallech fod yn gymwys i
gael help gyda'r gost.
Gallech hefyd wneud cais am orchymyn llys i ddiogelu'ch eiddo. Gall arbenigwr tai neu arbenigwr cyfreithiol eich helpu gyda hyn.
3. Gorchmynion llys
Os ydych angen diogelu rhag camdriniaeth y rhiant arall, gallwch gael gorchymyn llys i'w gwahardd nhw o'r
cartref fel nad oes ganddynt unrhyw fynediad iddo. Mae hwn yn gymwys waeth os ydych yn berchen ar eich cartref
neu beidio. Ni fydd gorchymyn llys yn parhau am byth ac yn y diwedd bydd rhaid i chi drefnu perchnogaeth y cartref.
4. Help gyda chostau cyfreithiol
Efallai gallech gael cyngor neu gynrychiolaeth gyfreithiol am ddim os ydych yn gwneud cais am orchymyn llys
yn erbyn eich partner. Ni fydd eu hincwm hwy yn cael ei ystyried wrth asesu eich hawl i gael help cyfreithiol.
