Os credwch y gallech orfod bod yn ddigartref

Os oes perygl i chi gael eich gwneud yn ddigartref, mae'n rhaid i chi ddelio gyda hyn cyn gynted â phosib. Y peth pwysicaf i gofio yw bod dal gennych hawliau ac opsiynau.

Mae p'un a fydd rhaid i chi adael eich cartref presennol ai peidio yn dibynnu ar nifer o bethau, fel:

  • os ydych yn berchennog neu'n denant
  • pryd y symudoch i mewn
  • os yw'ch landlord yn byw gyda chi ai peidio

Cysylltwch gyda chanolfan cymorth tai Shelter Cymru neu swyddfa Cyngor Ar Bopeth. Gallant eich helpu i osgoi bod yn ddigartref drwy:

  • egluro pa hawliau sydd gennych i aros yn eich cartref
  • trin a thrafod ar eich rhan gyda'ch landlord neu fenthyciwr
  • eich helpu i wneud cais i gael budd-daliadau i helpu talu'ch rhent neu forgais
  • trin a thrafod i ddod i gytundeb ynglŷn â thalu ôl-ddyledion
  • trefnu help proffesiynol i ddatrys anghytundeb yn y teulu neu'r cartref
  • dod o hyd i rywle arall i chi fyw.

Os byddwch angen cyngor neu gymorth ffoniwch Shelter Cymru ar 0845 075 5005 (8am i 8pm, 7 diwrnod yr wythnos) neu cysylltwch â'r ganolfan Cyngor Ar Bopeth yn www.citizensadvice.org.uk neu ffoniwch y Llinell Gymorth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol ar 0845 345 4345.

Taflen Eich Cartref - Hawliau ac Opsiynau

Eich Cartref - Hawliau ac Opsiynau [PDF 537KB] PDF

 Taflen am Eich Cartref - Hawliau ac Opsiynau - clawr

Cyrff defnyddiol

Shelter Cymru

Yn rhoi cymorth a gwybodaeth am ddim i unrhyw un sydd â phroblem cartrefu.

Cartrefi Cymunedol Cymru

Y corff aelodaeth ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru, pob un yn gweithredu heb elw ac yn cynnig tua 114,000 o gartrefi a gwasanaethau tai ledled Cymru.