Os ydych yn byw ar wahân i'r rhiant arall, gallech fod yn gymwys i gael help tuag at eich costau tai neu fathau eraill o help ariannol.
Help gyda blaendaliadau a rhent o flaen llaw
Os ydych yn symud i mewn i lety preifat byddwch fel arfer angen talu blaendal a fydd yn cael ei ad-dalu yn y pen draw, ynghyd â rhywfaint o rent ymlaen llaw hefyd.
Gallai adran tai eich awdurdod lleol eich helpu gyda'r taliadau hyn a gallai eich Canolfan Cymorth Tai neu ganolfan Cyngor Ar Bopeth lleol eich rhoi mewn cysylltiad gydag unrhyw elusennau lleol allai helpu.
Help gyda chyfraddau llog morgais a chostau tai eraill
Os ydych yn berchen ar gartref a'ch bod yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm yna gallech fod yn gymwys i gael arian i'ch helpu i dalu llog ar eich morgais ac unrhyw fenthyciadau rydych wedi eu cymryd er mwyn talu am welliannau ac atgyweiriadau.
Help arall
Os ydych ar incwm isel neu ar fudd-daliadau, gallech fod yn gymwys i gael:
- Grant Gofal Cymunedol
- Benthyciad Trefnu
- Benthyciad Argyfwng.
Cysylltwch â'r Gronfa Gymdeithasol yn eich Canolfan Byd Gwaith lleol am ragor o wybodaeth am y rhain.
Gallech hefyd fod yn gymwys i gael grant tuag at atgyweiriadau neu addasiadau ich cartref. Cysylltwch ag adran tai eich cyngor lleol am fwy o wybodaeth am grantiau atgyweirio neu wella a grantiau cyfleusterau i'r anabl.
Ewch in hadran budd-daliadauam wybodaeth ynglŷn â budd-daliadau eraill y gallech fod yn gymwys i'w cael.

