Hawliau cyflogaeth tâl a thelerau

Mae gan bawb syn gweithio hawliau cyflogaeth sylfaenol. Os ydych yn gweithio yn barod, gallair hawliau hyn eich helpu i gydbwyso eich gwaith gyda gofalu am blentyn.

  1. Isafswm cyflog
  2. Oriau gweithio hyblyg

Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Os ydych yn gweithio, mae gennych hawl i isafswm cyflog. Y Llywodraeth syn gosod hyn er mwyn sicrhau bod pob gweithiwr yn cael eu trin yn deg ac yn cael cyfradd ofynnol yr awr. Caiff y cyfraddau hyn eu hadolygu bob blwyddyn, ar cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol o 1 Hydref 2009 ymlaen yw:

  • £5.80 yr awr - 22 oed ac hŷn
  • £4.83 yr awr - 18 oed i 21 oed
  • £3.57 yr awr - 16 oed i 17 oed

Oriau gweithio hyblyg

Gallech fod â hawl i ofyn ich cyflogwr am gael oriau gweithio hyblyg os:

  • rydych wedi gweithio ir un cyflogwr am gyfnod gofynnol (gofynnwch i'ch cyflogwr faint yw hyn), ac
  • mae eich plentyn o dan 6 oed, neu
  • mae eich plentyn o dan 18 oed ac mae ganddynt anabledd.

Gall oriau gweithio hyblyg olygu gweithio yn rhan amser, rhannu swydd neu dim ond gweithio yn ystod tymhoraur ysgol. Os byddwch yn cwrdd âr meini prawf penodol, mae eich cyflogwyr yn gyfreithiol rhwym i ystyried eich cais o ddifrif, ond gallant wrthod eich cais os oes ganddynt resymau busnes cryf.

Ewch in hadran ar oriau gweithio hyblyg am fraslun or gwahanol fathau o oriau gweithio hyblyg.

I gael gwybod mwy am eich hawliau, ewch i www.direct.gov.uk, cysylltwch âr ganolfan Cyngor Ar Bopeth neu adran adnoddau dynol (personél) eich gwaith.