Hawliau cyflogaeth amser i ffwrdd i rieni

Plant ifanc neu anabl

Amser i ffwrdd i rieni yw amser a roddir i ffwrdd or gwaith, heb dâl er mwyn gofalu am blentyn. Mae gennych hawl cyfreithiol i gael yr amser hwn os ydych wedi eich enwi ar dystysgrif geni neu dystysgrif mabwysiadur plentyn, neu os oes gennych gyfrifoldeb cyfreithiol fel rhiant dros y plentyn. Nid oes gan rieni maeth yr hawl i gael y math hwn o amser i ffwrdd or gwaith, ond mae gan rieni mabwysiedig yr hawl iddo.

Er mwyn bod yn gymwys i gael amser i ffwrdd i rieni, maen rhaid i chi fod wedi gweithio ir un cyflogwr am o leiaf blwyddyn a bod gennych gontract gwaith, a bod gennych naill ai:

  • plentyn o dan bump oed, neu
  • plentyn o dan 18 oed, gydag anabledd.

Fel arfer, nid oes gan y rhan fwyaf o staff dros dro, neu bobl syn gweithio i asiantaethau cyflogaeth yr hawl i gael amser i ffwrdd or gwaith i rieni. Os ydych yn gymwys i gael amser i ffwrdd or gwaith, gallech allu cymryd:

  • hyd at 13 wythnos i ffwrdd or gwaith (cyfanswm nid bob blwyddyn) ar gyfer pob plentyn, hyd at eu pen-blwydd yn bump oed (neu ar gyfer plentyn wedi ei fabwysiadu, hyd at bum mlynedd ar ôl y diwrnod pryd rhoddwyd y plentyn yn eich gofal, hyd at eu pen-blwydd yn 18 oed), neu
  • 18 wythnos i ffwrdd or gwaith ar gyfer pob plentyn anabl, hyd at pen-blwydd y plentyn yn 18 oed.

Os nad ydych yn gymwys i gael amser i ffwrdd i rieni ond eich bod angen cymryd amser i ffwrdd or gwaith i ofalu am eich plentyn, gallech naill ai gymryd gwyliau gyda thâl neu gofyn ich cyflogwr am amser i ffwrdd or gwaith heb dâl neu drefnu oriau gweithio hyblyg.

I gael gwybod mwy am eich hawliau, ewch i www.direct.gov.uk, cysylltwch âr ganolfan Cyngor Ar Bopeth neu adran adnoddau dynol (personél) eich gwaith.

Cyrff defnyddiol

Y Ganolfan Byd Gwaith a Cheisiwr Gwaith Uniongyrchol

Chwiliwch a gwnewch gais am swyddi.

Gyrfa Cymru

Gwasanaeth gwybodaeth am yrfaoedd i bobl o bob oed yng Nghymru.