Chwilio am waith

Os ydych yn chwilio am waith, byddwch angen ysgrifennu CV (curriculum vitae), syn rhoi manylion diweddaraf am eich cymwysterau, profiad gwaith a sgiliau. Dylech egluro unrhyw gyfnodau mawr gwag yn eich hanes cyflogaeth fel unrhyw amser pan wnaethoch stopio gweithio er mwyn gofalu am blentyn.

Y cam nesaf yw ystyried y mathau o waith sydd o ddiddordeb i chi ac edrych am swyddi gwag yn y meysydd hynny.

Ble i gael help

Gall cynghorwr personol yn y Ganolfan Byd Gwaith drafod eich amcanion gwaith gyda chi. Gallant hefyd eich rhoi mewn cysylltiad â chyrff eraill all eich helpu i:

  • ysgrifennu neu wella eich CV,
  • cael hyfforddiant,
  • eich cefnogi tra eich bod yn chwilio am waith.

Gall Ceisiwr Gwaith Uniongyrchol ddweud wrthych am y swyddi gwag diweddaraf ac anfon ffurflen gais atoch. Gallant hefyd gysylltu âr cyflogwyr i drefnu cyfweliad. Ewch i www.canolfanbydgwaith.gov.uk, ffoniwch Ceisiwr Gwaith Uniongyrchol 0845 606 7890 neu ewch ich Canolfan Byd Gwaith lleol.

Gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc

Yng Nghymru, maer gwasanaeth Gyrfa Cymru yn rhoi gwybodaeth am yrfaoedd i bobl o unrhyw oed. Gallwch ffonio Gyrfa Cymru ar 0800 100 900 neu ewch i www.gyrfacymru.com.

Cyrff defnyddiol

Y Ganolfan Byd Gwaith a Cheisiwr Gwaith Uniongyrchol

Chwiliwch a gwnewch gais am swyddi.

Gyrfa Cymru

Gwasanaeth gwybodaeth am yrfaoedd i bobl o bob oed yng Nghymru.