Amser a thâl mamolaeth
Os ydych yn feichiog ac yn gweithio, mae gennych hawl i gael amser mamolaeth ac efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol.
Amser Mamolaeth - Mae gennych hawl i gael 52 wythnos o amser i ffwrdd dros gyfnod mamolaeth.
Tâl Mamolaeth Statudol
Tâl Mamolaeth Statudol ywr tâl sylfaenol syn rhaid ich cyflogwr ei dalu i chi os:
- rydych wedi cael eich cyflogi gan yr un cyflogwr heb unrhyw doriad am o leiaf 26 wythnos, hyd at ddiwedd y 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir ir babi gael ei eni.
- rydych wedi ennill o leiaf £95 yr wythnos ar gyfartaledd dros y 26 wythnos hynny (cyn treth).
- Ar gyfer y 6 wythnos cyntaf och cyfnod mamolaeth, cewch 90% och enillion wythnosol ar gyfartaledd.
Ar gyfer yr wythnosau syn weddill (hyd at 33 wythnos arall) byddwch naill ai yn cael:
- cyfradd sylfaenol o £123.06 yr wythnos (gallair swm hwn newid ym mis Ebrill 2010), neu
- 90% och enillion wythnosol ar gyfartaledd, pa un bynnag sydd isaf.
Er mwyn hawlio Tâl Mamolaeth Statudol, rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad pryd rydych yn bwriadu dechrau eich cyfnod mamolaeth. Os nad ydych yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, gallech fod yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth. Gallech hefyd fod yn gymwys i gael Budd-dal Analluogrwydd os nad ydych wedi dychwelyd ir gwaith oherwydd rhesymau iechyd.
