Os ydych yn gofalu am blentyn, byddwch angen sicrhau eu bod yn cael eu gofalu amdanynt trach bod yn gweithio neun chwilio am waith. Os ydych am ofalu am y plentyn eich hunan, gallech ystyried oriau gweithio hyblyg.
Gweithio rhan amser
Un ffordd dda o allu gweithio a chadw at eich cyfrifoldebau teuluol yw gweithio yn rhan amser. Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm neu unrhyw fudd-dal arall, gallech allu cael help tuag at gostau gofal plant am hyd at flwyddyn. Dylech siarad gydag un o gynghorwyr personol y Ganolfan Byd Gwaith i gael mwy o wybodaeth.
Rhannu swydd
Rhannu swydd yw pan fo dau o bobl yn rhannu un swydd llawn amser. Mae rhai pobl yn hapus i rannu un swydd fel hyn. Os ydych chi a chyd-weithiwr yn awyddus i rannu swydd, awgrymwch hyn ich cyflogwr.
Gweithio tymhorau ysgol
Mae hyn yn golygu na fyddwch yn cael cyflog yn ystod gwyliaur ysgol, ond caiff eich gwaith ei gyfrif fel gwaith parhaol yn hytrach na gwaith tymhorol.
Gwaith gwirfoddol
Gallech ystyried gwneud gwaith gwirfoddol er mwyn eich helpu i allu penderfynu os ydych yn mwynhau math arbennig o swydd. Ni chewch eich talu am wneud gwaith gwirfoddol, ond maen ffordd dda o gael profiad.
Gallwch weld os yw oriau gweithio hyblyg yn gymwys i chi yn ein hadran Hawliau cyflogaeth tâl a thelerau section.

