Trefniadau gofal plant

Os ydych angen i rywun edrych ar l eich plentyn trach bod yn gweithio, efallai y gallech gael help gyda chostau gofal plant drwy Gredydau Treth neu drwy eich cyflogwr.

Cysylltwch ag adran adnoddau dynol (personl) eich gwaith neu darllenwch ein tudalennau am yr help ariannol allai fod ar gael i chi .

Mae dewis yr opsiwn gofal plant iawn i chi yn dibynnu ar oed eich plentyn ar gwasanaethau sydd ar gael yn eich ardal. Dyma ganllaw bras ar eich opsiynau gofal plant:

Gofalwyr plant cofrestredig

Mae plant yn mynd i gartref y Gofalwr plant i gael eu gwarchod. Hefyd, gallai gofalwyr plant fod wedi cael gwiriad heddlu au bod wedi eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf, ac maer rhan fwyaf wedi cael eu cofrestru au harolygu gan Estyn (neu Ofsted/Care Commission yn Lloegr/yr Alban).

Nanis

Nani yw rhywun syn gofalu am blant yn eich cartref chi a gallant edrych ar ôl plant o unrhyw oedran.

Ysgolion a grwpiau meithrin

Maer rhain yn rhoi cyfle i chwarae a dysgu i blant sydd o dan bump oed. Mae rhai mudiadau fel hyn yn gweithio gyda chynghorau lleol er mwyn cynnig addysg meithrin rhan amser i blant tair a phedair oed, yn rhad ac am ddim.

Meithrinfeydd

Mae meithrinfeydd yn rhoi gofal dyddiol i blant ou geni hyd at oed ysgol. Maer gweithgareddau i blant yn cynnwys chwarae, dysgu sgiliau newydd, a gwneud ffrindiau. Mae gan rhai meithrinfeydd preifat oriau agor hir, a gall hynny fod yn help i chi os ydych yn gweithio ar l amser ysgol.

Cymorth y gronfa plant a ieuenctid canolfannau plant

Gallant gynnig gofal plant ac addysg, cyngor am iechyd a chymorth i deuluoedd hyd at bump oed.

Clybiau ar ôl ysgol

Gall clybiau fel hyn gynnig rhywle saff i blant oed ysgol allu chwarae a dysgu y tu allan i oriau ysgol. Neu, gallech ofyn i ysgol eich plant os oes ganddynt wasanaethau gofal plant ar ôl ysgol.

Teulu a ffrindiau

Os ydych yn anfodlon r holl opsiynau hyn, efallai y byddwch yn awyddus i ofyn ich teulu neu ffrindiau ofalu am eich plant. Dylech wneud yn siwr bod gennych drefniadau eraill wrth gefn er mwyn i rywun arall helpu os byddant yn sâl.

Mwy o wybodaeth

Cewch fwy o wybodaeth am ofal plant ac addysg i blant bach drwy ffonio eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd edrychwch ar y rhestr ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru i gael y rhif perthnasol

.

Cyrff defnyddiol

Y Ganolfan Byd Gwaith a Cheisiwr Gwaith Uniongyrchol

Chwiliwch a gwnewch gais am swyddi.

Gyrfa Cymru

Gwasanaeth gwybodaeth am yrfaoedd i bobl o bob oed yng Nghymru.