Mae'r ddau riant yn bwysig iawn mewn bywyd plentyn. Gall sefyllfa'r plentyn deimlo'n wahanol iawn os bydd un rhiant yn gadael eu bywyd yn sydyn, felly mae'n bwysig iawn bod y ddau ohonoch yn aros yn rhan o'u bywyd, os yw'n ddiogel gwneud hynny.
Anawsterau
Gall fod yn anodd aros yn rhan o fywyd eich plentyn oherwydd:
- efallai bod gennych deimladau negyddol cryf am eich gilydd neu o ganlyniad i fagu ar wahân
- gallai fod problemau ymarferol, er enghraifft gallai'r rhiant sydd ddim yn gofalu am y plentyn o ddydd i ddydd fod yn byw yn bell i ffwrdd neu mewn lle sy'n anaddas i blentyn.
Atebion
- Siaradwch gyda rhywun am sut rydych yn teimlo. Gallai ffrind, cwnsler neu eich meddyg teulu helpu.
- Os ydych yn byw ar wahân i'r rhiant arall ac nad oes genych unrhyw le addas ar gyfer gweld eich plentyn, dylech drefnu i'w gweld yn nhŷ perthynas neu ffrind, neu ewch i'r parc neu'r llyfrgell lleol.
- Os ydy'r rhiant arall yn eich rhwystro rhag cael gweld eich plentyn, siaradwch gyda'r llinell gymorth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol ar 0845 345 4345.
- Os yw'n cymryd amser i chi ddod i gytundeb gyda'r rhiant arall, dylech gadw cysylltiad gyda'ch plentyn trwy lythyr, e-bost neu neges testun (SMS).

