Beth yw fy opsiynau fel rhiant?

Mae'n bwysig tra bo'n ddiogel gwneud hynny, bod y ddau ohonoch yn gallu treulio amser gyda'r plentyn ar ôl i chi wahanu.

Mae bob sefyllfa yn wahanol a gall gymryd amser i ddod o hyd i'r ateb gorau. Cofiwch fod pob sefyllfa yn wahanol ac mai ansawdd y cyswllt sy'n cyfrif, nid y nifer o ddyddiau sy'n bwysig i'r plentyn. Mae angen i'r ddau ohonoch ddod i gytundeb am drefniadau magu eich plentyn. Fel arfer, gall hyn ddilyn un o ddau batrwm:

  1. Preswyl a chyswllt
  2. Rhannu preswyl

1. Preswyl a chyswllt

Gallai fod bod y ddau ohonoch yn penderfynu y dylai'r plentyn dreulio'r rhan fwyaf o'i amser gydag un ohonoch tra'n cadw cysylltiad rheolaidd â'r rhiant arall. Mae’r math yma o gytundeb rhwng rhieni yn un hyblyg ac yn meddwl eich plentyn, mae'n debyg i'r hyn maent eisoes wedi arfer ag ef neu'r syniad sydd ganddynt yn eu meddwl. Ond, gallai'r holl beth fod yn ormod i'r rhiant sy'n gofalu am y plentyn o ddydd i ddydd a gallai'r rhiant sy'n cael cyswllt rheolaidd â'r plentyn deimlo nad ydynt yn gweld digon o'r plentyn.

Os byddwch yn cytuno â'r trefniant hwn, bydd gennych dri opsiwn:

Cyswllt dros nos

Bydd plentyn yn aros dros nos gyda'r rhiant nad yw'n brif ofalwr o ddydd i ddydd. Gallai fod am un noson yr wythnos, bob yn ail benwythnos neu bob hyn a hyn yn ystod gwyliau'r ysgol.

Cyswllt ymweld

Os nad oes gan un rhiant gartref addas neu os oes unrhyw reswm arall pam na all ymweliad dros nos fod yn ymarferol, mae hyn yn cynnig ffordd i'ch plentyn gadw cysylltiad hyd nes bydd amgylchiadau'n newid.

Cyswllt goruchwyliedig

Pan fo problemau penodol, gall y llys orchymyn cyswllt goruchwyliedig. Fel arfer, caiff hyn ei gynnal mewn canolfan gyswllt oruchwyliedig.

2. Rhannu preswyl

Golyga rhannu preswyl bod plentyn yn rhannu ei amser yn gyfartal rhwng y ddau riant ar sail deg a chyfartal. Gallai eich plentyn dreulio tri diwrnod yr wythnos gyda chi a phedwar diwrnod gyda'r rhiant arall neu bob yn ail wythnos.

Gall y math hwn o gytundeb olygu bod y ddau ohonoch yn gallu treulio amser gyda'ch plentyn ond gall fod yn anodd cynnal trefn.