Amser gyda'ch plentyn
Fel arfer, bydd rhieni eisiau treulio cymaint o amser â phosib gyda'u plentyn ac mae’n annhebygol y byddwch
chi eich dau'n wahanol i hyn. Mae gan eich plentyn yr hawl i dreulio amser gyda'i ddau riant pan fo'n ddiogel
gwneud hynny.
Weithiau, pan fydd rhieni yn dadlau byddant yn ceisio defnyddio amser fel teclyn bargeinio, gan fygwth ei
dynnu'n ôl os nad yw eu hanghenion yn cael eu cwrdd. Mae hyn yn niweidiol i emosiynau eich plentyn. Pan
fo'n ddiogel gwneud hynny, mae gan eich plentyn yr hawl i dreulio amser gyda'i ddau riant. Rhaid i chi ddatrys
eich gwahaniaethau cyn y gallwch wneud trefniadau hyblyg sy'n rhoi blaenoriaeth i'ch plentyn.
Arian a chynhaliaeth plant
Dyma fater arall all greu dadlau rhwng rhieni sydd wedi gwahanu. Fel rhieni mae'n rhaid i chi gynnal costau
byw dyddiol eich plant yn ariannol ond gall fod yn anodd cytuno ar drefniadau cynhaliaeth plant os ydych yn gwrthdaro
am rywbeth arall. Byddwch angen gwneud trefniadau ar gyfer cynhaliaeth plant, sef y swm a phryd i'w dalu.
Am y rheswm hwn, dylech wahanu cynhaliaeth plant a chyswllt plant oddi wrth unrhyw faterion emosiynol sydd
gennych chi a'r rhiant arall. Os bydd anghytundebau eraill yn eich rhwystro chi rhag rhoi trefniadau cynhaliaeth
ar waith yna mae'n bwysig eich bod yn cydnabod hyn ac yna'n delio gyda’r materion hyn ar wahân.
Dulliau magu plant a gwneud penderfyniadau
Wrth wneud penderfyniadau, gall barn un rhiant fod yn gwbl groes i'r rhiant arall, ac weithiau gall hyn
greu gwrthdaro.
Os nad oes gennych bryderon difrifol am sut mae'ch plentyn yn cael ei fagu, ceisiwch osgoi gwrthdaro trwy gytuno
ar safonau a thrafod eich pryderon gyda'r rhiant arall.