Sicrhau eich plentyn

Osgoi dadleuon

Y peth sy'n achosi fwyaf o boen meddwl i blentyn yw bod yn dyst i ddadlau ac anghytuno rhwng eu tad a'u mam. Dylech warchod eich plentyn rhag hyn drwy ddelio gydag unrhyw faterion sy'n achosi anghytuno pan nad ydynt o gwmpas.

Sefydlu trefn

Dylech newid trefn bywyd eich plentyn cyn lleied phosib. Er enghraifft, bydd o gymorth iddynt os gallant aros yn yr un ysgol a pharau i ymweld neiniau a theidiau.

Byddwch yn ddibynadwy a chyson

Gwnewch beth rydych yn ei ddweud rydych am ei wneud, a gwnewch hynny pryd a phan rydych wedi dweud yr ydych am ei wneud gan sicrhau eich bod mewn cyflwr iawn i'w wneud yn llwyddiannus.

Derbyniwch fod gan eich plentyn riant arall

Beth bynnag fo'ch barn chi o riant arall y plentyn, maent yn fam neu dad i'ch plentyn. Dylech geisio:

  • caniatu i'ch plentyn siarad am y rhiant arall
  • siarad gyda hwy ac amdanynt mewn ffordd barchus pan yng nghwmni'ch plentyn
  • derbyn bod ganddynt ran ym mywyd eich plentyn
  • sicrhau eich bod yn rhannu gwybodaeth bwysig am eich plant gyda hwy.

Dangoswch iddynt eich bod yn iawn

Hyd yn oed os ydych yn teimlo eich bod wedi taro'r gwaelod, dylech wneud eich gorau i fod yn gryf ar gyfer eich plentyn fel y gallant ddibynnu arnoch. Os byddwch angen llefain, gwnewch hynny pan nad ydynt yn bresennol neu pan maent wedi mynd i'r gwely. Os byddwch angen siarad, gwnewch hynny gyda ffrind neu ymgynghorydd. Os ydych yn ddig, peidiwch dangos hynny o flaen eich plentyn, ac os bydd angen, ceisiwch gael help proffesiynol.

Taflen am Eich lles emosiynol

Eich lles emosiynol [PDF 616KB] PDF

Emotional wellbeing leaflet cover

Cyrff defnyddiol eraill

Centre for separated families

Y ganolfan i Deuluoedd ar Wahn yn rhoi cyngor a chymorth i rieni ac i bobl eraill syn rhan o deulu syn gwahanu.

Families Need Fathers

Maent yn rhoi gwybodaeth i rieni ac yn cynnal cyfarfodydd agored yn lleol.

Gingerbread

Gwybodaeth i rieni unigol am bethau fel cynhaliaeth, credydau treth, budd-daliadau, gwaith, addysg, hawliau cyfreithiol, gofal plant a gwyliau.

ParentlinePlus

Mae yn rhoi cyngor a chymorth i unrhyw un syn magu plentyn, gan gynnwys llys rieni a neiniau a theidiau.